Newyddion cyffrous! Dan ni’n edrych ‘mlaen unwaith eto i’n gŵyl gymunedol, Gwyddgig, yn Yr Wyddgrug Dydd Sadwrn, Gorffennaf 12fed, 2025. 

O berfformiadau byw ar sgwâr Daniel Owen i weithdai a sesiynau mewn nifer o leoliadau gan gynnwys Y Llyfrgell, Canolfan Daniel Owen, Neuadd y Seiri a THE POD@MOLD (Neuadd Eglwys Y Santes Fair). Bydd rhywbeth i bawb a hyn oll AM DDIM.

Bydd croeso cynnes i bawb ac mae mwy o wybodaeth a manylion ar ein gwefan: https://menterfflintwrecsam.cymru/gwyddgig/

Mae gig nos wedi trefnu gan Theatr Clwyd gyda Daniel Lloyd a Mr Pinc.  Mae modd i blentyn ddod o dan ofal rhiant neu ofalwr i’r gig.