Beth fyddi di yn ei wneud ar ddydd Gwyl Dewi eleni? Mae gan y mentrau Iaith lwyth o bethau ymlaen ar hyd Cymru – edrych drwy’r llyfryn hwn i gael gweld os oes rhywbeth ymlaen yn dy ardal di!

Mae’r Mentrau Iaith yn falch iawn gallu cyflwyno llwyth o ddigwyddiadau llawn hwyl dros gyfnod Gŵyl Ddewi eleni. Bydd y digwyddiadau hyn yn digwydd yn y cnawd ac yn rhithiol er mwyn gallu cynnwys pawb yn y dathliadau! 

“Mae Menter Iaith Sir Benfro ar y cyd gyda’r Cyngor Sir yn hapus gallu cydweithio ar drefniadau pared Gŵyl Ddewi yn Hwlffordd eleni” esbonia prif swyddog y Fenter yno, Rhidian Evans. “Dyma’r bedwaredd tro i’r pared ddigwydd, a hwn fydd y tro cyntaf erioed i faner sir Benfro gael ei harddangos yn y dref.” Cyfeirio wna Rhidian at faner enwog y sir sydd a’i chartref yn yr eglwys gadeiriol yn Nhŷ Ddewi. 

Mae gorymdeithiau wedi hen gydio yn y dychymyg erbyn hyn a bydd nifer o’r Mentrau yn cymryd rhan yn eu trefnu ar hyd y wlad – o Hwlffordd i Wrecsam, o Lambed i Ddinbych, cysyllta gyda dy Fenter Iaith i gael gwybod lle mae’r un lleol i ti.  

Ynghyd a hyn mae yna ymgais i ddwyn cynulleidfa ifanc, ddigidol at ddathliadau ein nawddsant fel esbonia Gwion o Fenter Iaith Sir Ddinbych: 

“Rydym fel Menter Iaith wedi bod yn cyd weithio hefo Mentrau eraill y gogledd ers Mehefin 2021, yn creu cymuned o chwaraewyr fideo Cymraeg” medd Gwion. “Mae’r gemau hyn yn cynnwys Minecraft, Fortnite ac Among Us. Mae’r plant wrth eu bodd trafod, dadlau, brwydro a chwerthin gyda’i gilydd ar lein mewn awyrgylch saff a Chymraeg. Rydym wedi gosod y thema ‘Gwnewch y Pethau Bychain’ ar gyfer Clwb Mis Chwefror er mwyn annog dehongliad personol o’r geiriau gan ofyn i chwaraewyr ddychmygu a chreu adeiladau, golygfeydd neu straeon sy’n cyfleu geiriau Dewi Sant”. 

Bydd lluniau o’r hyn a grëir yn cael eu postio ar rwydweithiau’r Mentrau fel bod modd bwrw pleidlais am enillydd  – gyda gwobr arbennig i fuddugwyr y ddau gategori oedran! 

Ymunwch yn hwyl dathlu Gŵyl Ddewi eleni a cysylltwch gyda’r Fenter Iaith leol am ragor o wybodaeth a chyfleoedd i wneud pethau yn Gymraeg.