Dwi wrth fy modd yn sefyll o dan goeden llawn blodau yn y gwanwyn a gwrando ar ei choron betalog yn berwi gyda suo miloedd o wenyn.

Bob blwyddyn ar 20 Mai, rydym yn dathlu diwrnod rhyngwladol y gwenyn, diwrnod a sefydlwyd gan y Cenhedloedd Unedig i werthfawrogi a gwarchod gwenyn a pheillwyr. A dwi yn sicr yn argyhoeddedig bod sŵn gwenyn ei hun yn werth ei warchod!

Gwenyn mêl sy’n tueddu denu’r mwyaf o’n sylw. Rydym yn eu gwerthfawrogi am eu gallu i gynhyrchu’r elixir melys rydym ni mor hoff ohono ar dôst neu mewn iogwrt. Ac yn eu hedmygu am gydfyw a chydweithio mewn haid dan drefn lled sosialaidd a ffeministaidd!

Wyddoch chi bod gwenyn du unigryw yn byw yng Nghymru? Tra mae gwenyn du brodorol wedi diflannu o weddill Prydain yn dilyn afiechydon a chroesfridio gyda gwenyn eraill, mae rhai Cymru wedi goroesi. Yn gynharach eleni, cafodd haid o wenyn du eu symud dros dro o do Plas yn Rhiw yn Llŷn yn ystod gwaith atgyweirio. Wedi byw yno ers dros ganrif, mae cymal yng nghofnodion y tŷ yn nodi na cheir aflonyddu arnyn nhw!

Fodd bynnag, dim ond rhai gwenyn sy’n byw mewn nythfa o hyd at 50,000 o unigolion. Byw’n unigol gwna’r rhan fwyaf o wenyn, dan wyneb y ddaear yn aml ac yn tyrchu twneli i hen goed lle maen nhw’n dodwy eu hwyau. Maen nhw i gyd yn dioddef o effaith plaladdwyr a dirywiad ein caeau a glaswelltiroedd, a diffyg neithdar a phaill. Dibynna rhai mathau o wenyn yn llwyr ar baill un genws o blanhigyn i fwydo eu larfau, ac oherwydd hynny yn fregus iawn pan mae nifer y rhywogaethau yn gyffredinol yn crebachu.

Gellid dadlau mai’r gwenyn yw’r rhywogaethau pwysicaf i’w gwarchod yn ein hoes o argyfwng bioamrywiaeth a hinsawdd. Nid gwenyn mêl yn unig, ond yr holl drychfilod sy’n peillio ein cnydau a’n blodau gwylltion, gan gynnwys gwenyn meirch, gwyfynod a gloÿnnod byw, pryfed, pryfed hofro, a hyd yn oed ystlumod. Mae tri chwarter o’n cnydau bwyd yn dibynnu ar baill i ffynnu ac ar filoedd o beillwyr i gynhyrchu hadau a ffrwythau. Does dim rhyfedd bod eu pwysigrwydd economaidd yn sylweddol a bod ein dyfodol yn dibynnu arnyn nhw.

Gallwch dyfu planhigion sy’n llesol i beillwyr yn eich gardd neu mewn gardd gymunedol, i gynyddu’r bwyd sydd ar gael iddyn nhw. Dyma ganllaw garddio er lles bywyd gwyllt.

Os hoffech chi wybod mwy am wenyn a pheillwyr yn eich ardal, edrychwch ar gynllun Caru Gwenyn. Neu dowch ar daith gerdded prosiect Gwreiddiau Gwyllt ar 9 Mehefin 2024 yng Nghwm Idwal gyda warden yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i weld gwenyn llus, gwenyn sy’n arbennig i ucheldiroedd rhos neu waun.

Mae Gwreiddiau Gwyllt a ariennir gan Gronfa’r Loteri Treftadaeth hefyd wrthi’n hel adnoddau byd natur yn Gymraeg, a bydd y gronfa ar gael i bawb mewn un lle ar y wê ar ddiwedd y prosiect. A chofiwch fod modd chwilio am enwau rhywogaethau yn Gymraeg neu Saesneg ar wefan Llên Natur.