Mae Mentrau Iaith Cymru yn falch iawn o gyhoeddi eu bod wedi derbyn Grant Strategol Gwirfoddoli Cymru WCVA ar gyfer prosiect newydd 18 mis o hyd, a fydd yn rhedeg rhwng 2026 a Chwefror 2028.
Bwriad y prosiect yw adeiladu capasiti Cynghorau Gwirfoddol Sirol (CVCs) i gefnogi mudiadau a chymunedau Cymraeg, cryfhau partneriaethau rhwng y Mentrau Iaith a’r Cynghorau Gwirfoddol, a gwella’r gefnogaeth sydd ar gael i wirfoddolwyr sy’n siarad Cymraeg. Trwy’r gwaith hwn, bydd y prosiect yn hyrwyddo arferion gorau o ymgysylltu â chymunedau Cymraeg, yn casglu gwersi gwerthfawr ac yn eu rhannu’n genedlaethol er budd y sector gwirfoddol ledled Cymru.
Bydd y prosiect yn cael ei gynnal mewn 2 ardal yng Nghymru sydd â natur ieithyddol wahanol. Yn y gogledd bydd y prosiect yn adeiladu ar y gwaith sydd eisoes yn digwydd yng Ngwynedd, yn cydgynllunio a rhannu arfer dda gyda Menter Iaith a chyngor gwirfoddol Ynys Môn (Medrwn Môn). Y nod yw helpu mudiadau trydydd sector i weithredu mewn ffordd sy’n adlewyrchu natur ddwyieithog eu cymunedau.
Yn ne ddwyrain Cymru bydd y prosiect yn cryfhau’r bartneriaeth rhwng Menter Iaith Merthyr Tudful a VAMT, gan gefnogi’r Cyngor Gwirfoddol i ddatblygu dulliau newydd o weithio sy’n rhoi’r Gymraeg wrth galon ei weithgareddau ac yn hwyluso ymgysylltu ystyrlon â mudiadau gwirfoddol lleol.
Dwedodd Myfanwy Jones, Cyfarwyddwr Mentrau Iaith Cymru:
“Rydym yn falch iawn o allu gweithio ar y prosiect hwn i ddatblygu fframwaith a fydd yn cynorthwyo Cynghorau Gwirfoddol Sirol ar draws Cymru yn eu gwaith o gefnogi mudiadau a gwirfoddolwyr – a hynny gyda’r Gymraeg yn ganolog i’r gwaith. Rydym yn edrych ymlaen at hwyluso cydweithio rhwng y Mentrau, y Cynghorau gwirfoddol, Swyddfa’r Comisiynydd, a’r CGGC wrth ddatblygu’r gwaith pwysig hwn.”
Mae’r prosiect yn cyfrannu’n uniongyrchol at amcanion Grant Strategol Gwirfoddoli Cymru drwy fynd i’r afael â rhwystrau i wirfoddoli, cryfhau partneriaethau strategol, hyrwyddo arferion da, cefnogi cynhwysiant ac adeiladu cronfa wybodaeth y gellir ei rhannu ledled Cymru. Bydd hefyd yn cefnogi gweledigaeth Dull Newydd o Wirfoddoli yng Nghymru, gan sicrhau bod gwirfoddoli yn gynhwysol, yn gynaliadwy ac yn adlewyrchu cymdeithas, diwylliant ac iaith Cymru.

