Ein Maniffesto

Datganiad i’r Wasg: Lansio Maniffesto Mentrau Iaith

Dyblu’r Defnydd: Lansio Maniffesto Mentrau Iaith Cymru ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol

Bydd Mentrau Iaith Cymru yn cynnal digwyddiad ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam eleni er mwyn lansio maniffesto ar gyfer etholiadau’r Senedd 2026. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ddydd Mercher, 6 Awst am 11.30, ym mhabell y Cymdeithasau 2. Cynhelir y sesiwn yn y Gymraeg, a bydd cyfieithu ar y pryd i’r Saesneg ar gael.  

Bydd Dr Myfanwy Jones, Cyfarwyddwr Mentrau Iaith Cymru, yn trafod rôl allweddol y Mentrau wrth ddyblu’r defnydd o’r Gymraeg yn ein cymunedau, ac yn cyflwyno gweledigaeth y mentrau ar gyfer tymor nesaf y Senedd. Yna, bydd trafodaeth banel dan ofal Angharad Mair, ar brif bynciau’r maniffesto, ac am rôl y mentrau wrth arwain ar gynllunio ieithyddol yn lleol.  

Mae’r Mentrau wedi nodi wyth cynnig ar gyfer diogelu a hybu’r Gymraeg gan gynnwys gweledigaeth o gryfhau’r strategaethau hybu sy’n weithredol ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru, ehangu defnydd digidol o’r Gymraeg a chyflawni potensial y Mentrau i ymbweru cymunedau ac i greu gwaith. 

Yn ôl Myfanwy Jones: 

 ‘Mae’n amser tyngedfennol i addysg Gymraeg yng Nghymru. Wrth i Ddeddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 ddod i rym ac i argymhellion y Comisiwn Cymunedau gael eu rhoi ar waith, rydym yn benderfynol o gefnogi’r gwaith gan sicrhau dyfodol yr iaith ymysg ein plant a’n pobl ifanc, ac yn ein cymunedau ledled Cymru’.    

Rydym yn credu’n gryf y gall y Mentrau Iaith arwain y ffordd o ran cynllunio ieithyddol ar lefel gymunedol, a darparu newid gêr go iawn i gyrraedd targedau ‘Miliwn o Siaradwyr’ ac o ‘ddyblu defnydd y Gymraeg’ yn benodol.  Yr wyth cynnig sydd wedi eu nodi yn y maniffesto ac a fydd yn cael eu trafod yn y digwyddiad fydd: 

  1. Strategaethau Hybu: Cryfhau’r Safonau Hybu a chynyddu eu heffaith
  2. Cefnogi Amcanion y Bil Addysg
  3. Grymuso Cymunedau
  4. Ehangu defnydd Digidol o’r Gymraeg
  5. Gwobrau cydnabyddiaeth y Gymraeg mewn Chwaraeon
  6. a. Ardaloedd Dwysedd Uwch: Trosglwyddo Iaith
    b. Ardaloedd Dwysedd is: Defnydd ôl addysg
  7. Creu Gwaith: Y Gymraeg a swyddi lleol
  8. Sicrhau Hirhoedledd ein Gwyliau

Bydd cyfranwyr o’r meysydd uchod yn cynnig trafodaeth ddiddorol a fydd yn ysgogi’r meddwl.  

Meddai Dewi Snelson, Cadeirydd Mentrau Iaith Cymru: 
 “Mae gan y Mentrau Iaith yng Nghymru rôl hollbwysig i’w chwarae wrth ddiogelu a hyrwyddo’r Gymraeg. Rydym yn edrych ymlaen at rannu ein cynigion a chynnal trafodaeth ar faes yr Eisteddfod a thu hwnt er mwyn gwneud gwahaniaeth i’r defnydd o’r Gymraeg yn ein cymunedau i’r dyfodol.”