Enw reit anffafriol sydd gan yr eiddew, neu’r iorwg. Mae’n dringo planhigion a waliau, yn gafael yn dynn â’u gwreiddiau cryf byrion sy’n tyfu o’i goesyn fel brws caled, ac yn carlamu fel llif ar hyd llawr coedwigoedd a gerddi. Ond yn groes i gred cyffredin, dydi o ddim yn tagu’r coed mae’n ymgripian drostyn nhw, ond yn eu defnyddio fel ffrâm dringo ac yn sicr o gysgodi beth o’u golau gyda’i ddail tywyll, sgleiniog, bythwyrdd.

Ddiwedd hydref, mi welwch chi ei flodau’n agor yn y cloddiau, fel peli’n ymdebygu â lluniau microsgopig y Coronafirws, cnewyllyn canol gyda dwsinau o loerennau crwn yn felyn o baill. A’r lloerennau melyn yna’n ffrwydro eu harogl melys sy’n gwneud i chi droi eich pen, ac yn yr un modd annog gwenyn hwyr a gwibaid i fwydo ar eu neithdar. Mantais i’r eiddew ydi’r tymor hwyr pan mae llai o gystadlu am sylw’r peillwyr.

Erbyn misoedd y gaeaf, mae’r aeron du’n fwyd i adar, ac mae cris-croes ei egin hirion yn ddigon dwys i gynnig lloches iddyn nhw hefyd. I fywyd gwyllt, mae’n arch blanhigyn gwirioneddol. I ni mae’n wenwynig – ond gwnaed llawer o ddefnydd meddyginiaethol ohono yn y gorffennol, er enghraifft i drin dolur annwyd neu draed chwyddedig.

Mae’r gaeaf yn amser i fod yn ddiolchgar am blanhigion bythwyrdd, a does dim rhyfedd bod ni’n dathlu’r Nadolig gydag addurniadau coed pîn, ywen, eiddew a chelyn. Gan eu bod yn bytholwyrdd, roedd ein cyndeidiau yn credu ym mhwerau arbennig y planhigion hyn i sicrhau cylch bywyd arall yn y flwyddyn i ddod, yn ogystal â nodweddion meddygol ac ysbrydol. Gwnaed powdwr o’r aeron i drin pen mawr, a rhoid brigau o eiddew ar flaen tafarnau fel arwydd o safon eu diodydd. Credid bod rhywun sy’n byw mewn tŷ dan orchudd o eiddew yn saff o ddrygioni.

Drwm o symboliaeth, cariwyd eiddew gan ferched ifanc mewn gobaith am gariad a ffrwythlondeb, addurnwyd priodasau ag eiddew fel arwydd o ffyddlondeb, ac roedd y derwyddon Celtaidd yn ei addoli fel symbol o heddwch, gan ei fod yn clymu planhigion gwahanol at ei gilydd. Fel bob amser, aeth Cristnogaeth gam ymhellach a’i gysylltu â bywyd tragwyddol.

Os dach chi awydd awr neu ddwy o heddwch, dowch efo ni ar un o deithiau cerdded neu weithgareddau natur eraill Gwreiddiau Gwyllt. Mae’r prosiect (a ariennir gan Gronfa’r Loteri Treftadaeth) hefyd wrthi’n hel adnoddau byd natur yn Gymraeg, ac mae’r gronfa ar gael ar y wê ar www.gwreiddiaugwyllt.cymru. A chofiwch fod modd chwilio am enwau rhywogaethau yn Gymraeg neu Saesneg ar wefan Llên Natur.