Ar ben-blwydd arbennig DMC, bydd BBC Cymru yn darparu pob math o gynnwys Cymreig a chyffrous ar draws sawl platfform

O’r clasuron i draciau newydd sbon; p’un a ydych chi’n mwynhau gwrando ar gerddoriaeth yn y car, ar eich seinydd clyfar neu yn y gampfa, mae modd gwneud hynny ar BBC Cymru drwy gydol yr wythnos, yn ogystal ag ar y diwrnod ei hun, sef dydd Gwener 7 Chwefror.

BBC Radio Cymru ac BBC Radio Cymru 2

Mewn partneriaeth gyda Mentrau Iaith Cymru, mae BBC Radio Cymru 2, wedi paratoi rhestrau chwarae (playlists) i’w clywed mewn campfeydd led led Cymru.

Mae’r pedwar rhestr chwarae unigryw ,“Traciau Dydd Miwsig Cymru” yn llawn cerddoriaeth Cymraeg egnïol fydd ar gael i’w clywed yn eich gampfa lleol ac ar BBC Sounds.

Dywedodd Myfanwy Jones, Cyfarwyddwr Mentrau Iaith Cymru:

“Rydym yn falch iawn o’r bartneriaeth rhwng Mentrau Iaith Cymru a BBC Radio Cymru 2. Mae’r ymgyrch hon yn gyfle gwych i ddod â cherddoriaeth Gymraeg i mewn i weithgareddau bob dydd ac i ddathlu ein hetifeddiaeth ddiwylliannol mewn ffordd hwyliog a deniadol, gan gyrraedd cynulleidfaeodd ehangach ar y daith.”

Rhaglen Huw Stephens, BBC Sounds

I ddathlu degawd o Ddydd Miwsig Cymru bydd Huw Stephens yn dod â phedwar o ffigyrau amlwg o’r sin gerddoriaeth Gymraeg at ei gilydd. Yn cadw cwmni iddo bydd y rapiwr a chyflwynydd BBC Radio Cymru 2, Dom James; prif leisiydd band Chroma, Katie Hall; Heledd Watkins o’r band HMS Morris, a rheolwr label a threfnydd digwyddiadau cerddorol , Kev Tame.

Bydd y pedwar yn edrych yn ôl dros y ddegawd ddiwethaf o gerddoriaeth Gymraeg, gan rannu straeon ac uchafbwyntiau personol, a thrafod y camau nesaf a’r posibiliadau i gerddoriaeth Gymraeg i’r dyfodol.

Mae’r rhaglen yma wedi ei wneud mewn cydweithrediad gyda BBC Radio Cymru, BBC Gorwelion a Lŵp.

BBC Radio Wales

Bydd y DJ a cyflwynydd BBC Radio Wales, Molly Palmer yn ymddangos ar sawl rhaglen Radio Wales drwy gydol y dydd gan drafod ei hoff ganeuon ac artistiaid Cymraeg.

Yn gyntaf bydd hi ar Radio Wales Breakfast, ac wedi hynny bydd hi’n cadw cwmni ar raglen Robin Morgan, cyn cloi gyda sgwrs ar raglen Eleri Siôn.

BBC Introducing with Adam Walton, Dydd Sadwrn, 8 Chwefror, 10yh – 1yb

Ar ei sioe nos Sadwrn, bydd Adam Walton yn croesawu tair aelod o’r band , Adwaith. Daw Adam i adnabod y tair o Orllewin Cymru yn well drwy sgwrsio a chwarae traciau newydd o’u halbwm diweddaraf, yn ogystal a rhannu rhestr chwarae arbennig o gerddoriaeth sydd wedi’w hysbrydoli.

“Mae’r diwrnod arbennig hwn yn destun dathlu, medd Cyfarwyddwr BBC Cymru”, Rhuanedd Richards :

“Mae Cymru yn frith o artistiaid a cherddorion talentog, ac mae BBC Cymru Wales yn hynod falch o allu eu cefnogi drwy ein cynlluniau megis BBC Gorwelion/ Horizons, yn ogystal â chynnig platfformau i’w lleisiau cael eu clywed ar ein gorsafoedd radio a theledu.

Bydd cynnwys arbennig a rhywbeth at ddant pawb yn cael ei ddarlledu ar draws sawl platfform BBC Cymru Wales i ddathlu Dydd Miwsig Cymru. Dewch i wrando!”