Ar Ddydd Gŵyl Dewi, cynhaliwyd dathliad hanesyddol ym Maesteg fel rhan o ddathliadau Maesteg 200, gan nodi dwy gam bwysig — 200 mlynedd ers i Faesteg gael ei enwi’n swyddogol yn dref yn 1826, a 170 mlynedd ers i anthem genedlaethol Cymru gael ei chanu’n gyhoeddus yn y dref yn 1856.

Cynhaliwyd y prif ddigwyddiad yn Neuadd y Dref Maesteg, lleoliad cymunedol a diwylliannol yng nghanol y dref, a gafodd ei ailddatblygu’n ddiweddar, i gynnwys theatr, llyfrgell, canolfan dreftadaeth, caffi a mannau perfformio. Cynhaliwyd y digwyddiad o flaen cynulleidfa lawn, ac roedd yn cynnwys rhaglen ragorol o berfformiadau yn adlewyrchu balchder a chyfoeth diwylliannol y gymuned. Ymhlith y perfformwyr roeddent yn cynnwys Côr Gleemen Maesteg, disgyblion o Ysgol Gynradd St Mary’s a St Patrick’s, Ysgol Gynradd Nantyffyllon, ac Ysgol Cynwyd Sant, ynghyd â chyfraniad hanesyddol gan Gymdeithas Hanes Bro Ogwr. Cafwyd perfformiad bywiog gan Dawnswyr Pen-y-Fai, perfformiad gan Côr Merched Harmony, a chyfraniadau arbennig gan wirfoddolwyr Menter Bro Ogwr, gan gynnwys Dhani Eagle a Hunter Watts.

Nodiwyd 170 mlynedd ers i Hen Wlad Fy Nhadau gael ei chanu’n gyhoeddus ym Maesteg — cân a gyfansoddwyd ym Mhontypridd, gan Evan a James James, sydd ers hynny wedi dod yn symbol cenedlaethol pwerus o falchder, hunaniaeth ac undod ledled Cymru.

Fel rhan o’r dathliadau, cymrodd 10 ysgol ran yn weithdai ‘Gwlad, Gwlad’ Menter Bro Ogwr, gan roi cyfle i blant a phobl ifanc ddysgu am hanes yr anthem a myfyrio ar ei ystyr. Arweiniodd y gweithdai at greu 255 ciwb creadigol, sydd bellach ar arddangos yn Llyfrgell Maesteg, ynghyd â gwaith prosiect gan Ysgol Gynradd Llangynwyd, Ysgol Plasnewydd, ac Ysgol Cynwyd Sant.

Dechreuodd y prosiect gyda sgwrs gyda Paul Wines, cydlynydd y sesiynau Bore Coffi wythnosol yn Neuadd y Dref, Maesteg. Cefnogaeth gynnar a barhaus gan Anthony Bwye, a helpodd i lunio’r syniadau, dod â’r gymuned at ei gilydd, cefnogi’r prosiect drwy gydol, ac arwain y digwyddiad. Darparwyd cefnogaeth ariannol gan Gyngor Tref Maesteg.

Roedd y gwesteion anrhydeddus yn cynnwys Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, Mark Drakeford AS, ac Aelod o’r Senedd dros Ogwr, Huw Irranca-Davies MS/AS, Cynghorydd Gavin Thomas, Maer Maesteg, ynghyd â chynghorwyr o Gyngor Tref Maesteg a chynrychiolydd Pencampwr y Gymraeg o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Diolchwyd i Rhiannon Dixon, Cadeirydd Bwrdd Rheoli Menter Bro Ogwr, am agor y digwyddiad; i Gavin Thomas, Maer Maesteg, am ddweud ychydig o eiriau; ac i Anthony Bwye am gynnal yr achlysur a sicrhau bod popeth yn mynd yn llyfn.

Parhaodd y dathliadau i’r noson yn Clwb Gweithwyr Maesteg, yng nghwmni Gwyr y Stac. Dyma’r safle hanesyddol lle cafodd yr anthem ei pherfformio’n gyhoeddus am y tro cyntaf yn 1856, pan oedd yr adeilad yn cael ei adnabod fel Capel Tabor. Yno y canodd Elizabeth John yr anthem am y tro cyntaf erioed. Daeth y noson i ben gyda moment pwerus ac emosiynol wrth i bawb oedd yn bresennol uno i ganu Hen Wlad Fy Nhadau.

“Roedd yn anrhydedd aruthrol gweld y gymuned yn dod ynghyd i ddathlu pennod mor bwysig yn hanes Maesteg a Chymru,” meddai Amanda Jaine Evans, Prif Swyddog Menter Bro Ogwr. “Roedd safon y perfformiadau yn eithriadol, ac roedd y gynulleidfa lawn yn adlewyrchu’r balchder sydd gan ein tref yn ei threftadaeth. O’r gweithdai creadigol i’r perfformiadau ar y llwyfan, dangosodd pob agwedd pa mor bwerus yw ein cymuned pan fyddwn yn dathlu ein hiaith, ein hanes a’n diwylliant gyda’n gilydd.”

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, Mark Drakeford:

“Rwy’n ddiolchgar i Menter Bro Ogwr am y gwahoddiad i fod yn rhan o ddigwyddiad mor arbennig. Mae’r gwaith y maent yn ei wneud i gefnogi’r Gymraeg yn y gymuned hon yn wych, ac mae digwyddiadau fel hyn yn dangos pa mor bwysig a gwerthfawr yw’r gwaith hwnnw. Roedd clywed Hen Wlad Fy Nhadau’n cael ei chanu 170 mlynedd ar ôl y perfformiad cyntaf ym Maesteg yn foment na fyddaf fyth yn ei hanghofio.

“Roedd y digwyddiad yn dystiolaeth glir o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd cymuned yn dod at ei gilydd — nid yn unig i gofio’r gorffennol, ond i ysbrydoli’r dyfodol hefyd.”