Ymgyrch i ddiogelu adeilad allweddol er budd pobl Conwy

Mae ymgyrch ar y gweill i achub ac adfer Hen Neuadd Ddinesig Conwy fel canolfan ar gyfer pobl y dref.

Gobaith Pwyllgor Cymraeg Aberconwy yw creu canolfan a fydd yn cryfhau’r Gymraeg yn y dref a sicrhau dyfodol yr adeilad at ddefnydd y cyhoedd. Mae’r grŵp gwirfoddol profiadol hwn eisoes wedi bod yn trefnu digwyddiadau Cymraeg yn ardal Conwy, Deganwy a Chyffordd Llandudno ers 2023, gan gynnwys ‘Gwerin ar y Cei’ a ‘Gigs Jac Do.’

“Mae’r syniadau cychwynnol yn cynnwys cadw’r theatr aml-bwrpas ar yr ail lawr, a datblygu lle i stondinau bwyd a diod ar y llawr isaf,” esboniodd Morgan Dafydd ar ran yr ymgyrch. “Mae’r theatr ar y llawr uchaf yn lle unigryw yn y dref a fyddai’n gallu cynnal cynulleidfaoedd o 250+ ac mae’n addas iawn ar gyfer digwyddiadau cerddoriaeth fyw gyda’r nos yn y dref.”

Mae’r ymgyrch eisoes wedi derbyn grant ‘hyfywedd prosiect’ gan yr AHF (Architectural Heritage Fund) er mwyn gwaith datblygu’r prosiect, arolygon cychwynnol o’r adeilad ac ymgynghori â’r cyhoedd. Mae arolwg cymunedol yn fyw ar-lein ar hyn o bryd, a bydd cyfarfod cyhoeddus galw-heibio yn y Comrades Club yn y dref rhwng 3-8pm ddydd Mawrth 21 Gorffennaf.

“Bydd y cyfarfod hwn yn cyfle i hel syniadau gan y gymuned leol a rhannu ein gweledigaeth,” meddai Morgan.

“Byddwn hefyd yn datblygu cynllun busnes er mwyn rhoi cais cychwynnol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy erbyn diwedd y mis.  Ein gobaith yw sicrhau Trosglwyddiad Asedau Cymunedol i gwmni dim-er-elw cymunedol newydd fyddai’n gallu cymryd drosodd y gwaith o atgyweirio’r adeilad a’i redeg o ddydd i ddydd.

“Mae croeso i bawb ddod i’n sesiwn galw heibio i glywed mwy, neu os na allan nhw ddod, mae croeso iddyn nhw gysylltu hefo ni am sgwrs pellach ar 07840843814 neu pwyllgoraberconwy@gmail.com

“Gobeithio y gallwn ddibynnu ar eich cefnogaeth gyda’r cynllun cyffrous hwn i drawsnewid yr adeilad gwag a’i droi’n le arbennig iawn.”

Mae’r ymgyrch yn cael ei chefnogi gan Fenter Iaith Conwy, sy’n gweithio drwy’r sir i gyd i roi cymorth i gymunedau a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn gymunedol a chymdeithasol.

Pwyllgor Cymraeg Aberconwy