Murluniau Menter yn croesawu’r Eisteddfod Genedlaethol i Sir Benfro

Mae deg murlun lliwgar newydd wedi cael eu creu ledled Sir Benfro fel ran o brosiect Murluniau Menter, gan Menter Iaith Sir Benfro i groesawu’r Eisteddfod Genedlaethol i’r sir.

Mae’r prosiect wedi gweld yr artist graffiti lleol Lloyd the Graffiti yn creu deg murlun unigryw mewn gwahanol gymunedau ar draws Sir Benfro. Allwch weld y murluniau yma yn Llandudoch; Crymych; Trefdraeth; Abergwaun; Penrhyndewi; Hwlffordd; Aberdaugleddau; Penfro; Dinbych y Pysgod ac Arberth. Mae’r murluniau’n dathlu iaith, diwylliant a hunaniaeth Cymru, gan greu croeso gweledol i’r Eisteddfod Genedlaethol wrth iddi ddod i’r sir ar ddechrau mis Awst.

Mae pob murlun yn unigryw, wedi’i ysbrydoli gan y gymuned a’r ardal leol, gan ddefnyddio celf stryd fel ffordd gyffrous a modern o hyrwyddo’r Gymraeg a dathlu’r cyfoeth diwylliannol sydd i’w gael yn Sir Benfro.

Dywedodd Dafydd / Swyddog Plant a Phobl Ifanc o Fenter Iaith Sir Benfro:

“Ar ôl sawl mis o gynllunio a pheintio, rydym yn falch iawn o weld prosiect Murluniau Menter wedi dod yn fyw. Mae’r deg murlun yn ychwanegu lliw a chymeriad i gymunedau ledled y sir, ac maent yn ffordd wych o ddangos ein balchder yn yr iaith Gymraeg a’n cyffro wrth groesawu’r Eisteddfod Genedlaethol i Sir Benfro”

“Hoffem ddiolch i bob cymuned / busnes / Cyngorau Lleol / Ysgolion a fu’n glwm gyda cwblhau’r proiect yma”

“Mae Lloyd the Graffiti wedi gwneud gwaith arbennig yn dod â’r syniadau hyn yn fyw, ac rydym yn gobeithio y bydd y murluniau’n ysbrydoli pobl leol ac ymwelwyr i ddarganfod mwy am y cymunedau a’r straeon y tu ôl i bob un.” Roedd y prosiect yn ran o’r gwaith paratoi a’r dathliadau ehangach y Fenter a arianni’r gan Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig / Cyngor Sir Benfro wrth i Sir Benfro baratoi i groesawu’r Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las I’r ardal. Mae’r prosiect yn cyfuno celf, creadigrwydd, yr iaith Gymraeg a balchder cymunedol i greu etifeddiaeth weledol barhaol ar draws y sir.

Gerddi Gleision yn gadael etifeddiaeth liwgar i gymunedau Sir Benfro

Mae Menter Iaith Sir Benfro yn falch o ddathlu llwyddiant prosiect Gerddi Gleision, a gyflwynwyd mewn partneriaeth â’r garddiwr a chyflwynydd S4C, Adam yn yr Ardd fel rhan o’r gwaith o harddu’r ardal ar gyfer Eisteddfod y Garreg Las. Bu’r prosiect yn gweithio gyda naw o gymunedau ledled yr ardal, gan greu bocsys blodau sy’n ychwanegu lliw a bywyd i’r cymunedau tra hefyd yn dathlu’r Gymraeg, diwylliant a hunaniaeth leol.

Nodwedd arbennig o’r prosiect yw bod pob bocs blodau yn cynnwys cwpled gan fardd lleol, wedi’i ddewis i adlewyrchu cymeriad, hanes neu ysbryd yr ardal benodol lle mae’r bocs wedi’i leoli. Mae’r cyfuniad o flodau, barddoniaeth a’r Gymraeg yn creu etifeddiaeth barhaol sy’n estyn croeso cynnes i ymwelwyr ac yn cynnig ffynhonnell o falchder i’r cymunedau eu hunain.

Daeth y prosiect yn bosibl diolch i gyllid Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, ac mae hefyd wedi sicrhau bod y buddsoddiad yn cefnogi economi Sir Benfro. Daeth y blodau o Ganolfan Arddio Penrallt, sydd wedi’i lleoli nepell o faes yr Eisteddfod, tra cyflenwyd y pridd o Abercych. Cafodd y cafnau plannu eu cynhyrchu gan Diwydiannau Norman, gwasanaeth o fewn Cyngor Sir Penfro, a chafodd y placiau eu creu gan Tomos Lewis o gwmni Dail Pren. Drwy ddefnyddio cyflenwyr lleol ar bob cam o’r prosiect, mae Gerddi Gleision nid yn unig wedi harddu’r ardal ond hefyd wedi cefnogi busnesau a chrefftwyr lleol ledled y sir.

Yn ogystal â harddu’r ardal ar gyfer yr Eisteddfod, mae’r prosiect wedi cryfhau cysylltiadau cymunedol drwy ddod â gwirfoddolwyr, partneriaid a thrigolion ynghyd i gydweithio, rhannu syniadau a chreu mannau deniadol a chroesawgar.

“Mae Gerddi Gleision yn enghraifft wych o’r hyn sy’n bosibl pan fydd naw o gymunedau’n cydweithio tuag at nod cyffredin. Nid yn unig rydym wedi creu arddangosfeydd blodau hardd, ond rydym hefyd wedi plethu barddoniaeth, natur a’r Gymraeg i mewn i’r dirwedd mewn ffordd sy’n adrodd stori unigryw pob ardal. Rydym yn falch hefyd fod y prosiect wedi gallu cefnogi busnesau lleol ar hyd y ffordd, gan sicrhau bod y budd economaidd yn aros yn Sir Benfro.”

Mae Menter Iaith Sir Benfro yn diolch yn ddiffuant i Adam yn yr Ardd, y beirdd lleol, y gwirfoddolwyr a’r naw cymuned a gyfrannodd at lwyddiant y prosiect, yn ogystal â’r busnesau lleol a fu’n rhan o’i wireddu. Mae Gerddi Gleision yn dyst i rym partneriaethau lleol ac yn etifeddiaeth sy’n dathlu harddwch naturiol, treftadaeth ddiwylliannol a’r Gymraeg yng nghalon Sir Benfro. Hyderwn bydd y cynllun hwn fel y Murluniau yn gadael etifeddiaeth hirhoedlog i’r cymunedau ac yn rhoi croeso cynnes i bawb sy’n ymweld â’r ardal.