52 Ysgol ledled Cymru yn derbyn cyllid i hyrwyddo darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg

Mae prosiect Cymraeg i Bawb, o dan adain Mentrau Iaith Cymru, wedi cyhoeddi bod cyllid wedi’i ddyfarnu i 52 prosiect mewn ysgolion ledled Cymru i hyrwyddo a datblygu eu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg.

Dywed Meilyr Jones, Rheolwr Cenedlaethol Cymraeg i Bawb fod derbyn 100 o geisiadau wedi bod yn ‘hynod o galonogol ac yn adlewyrchu’r diddordeb a’r ymrwymiad cryf gan ysgolion i gryfhau mynediad at addysg Gymraeg yn eu cymunedau a chefnogi’r uchelgais o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050’. Bydd y prosiectau llwyddiannus yn cael eu gweithredu rhwng Chwefror a Gorffennaf 2026.

Ymhlith yr enghreifftiau o brosiectau fydd yn cael eu cyflwyno mae:

  • Datblygu gwefan ryngweithiol wedi’i gydlynu gan Ysgol Cwm Rhymni i hyrwyddo’r ysgolion cynradd Cymraeg yn y dalgylch
  • Ymgyrch farchnata digidol arloesol ar y cyd gan Ysgol Berllan Deg ac Ysgol Penygroes
  • Ffeiriau cymunedol yng nghefn gwlad Ceredigion i godi ymwybyddiaeth o addysg cyfrwng Cymraeg.

Prif bwrpas y cyllid yw sicrhau bod mynediad teg i addysg cyfrwng Cymraeg ar gael i bawb, gan gefnogi disgyblion i ddod yn wirioneddol ddwyieithog a rhoi’r wybodaeth a’r hyder i deuluoedd wneud dewisiadau gwybodus. Bydd y prosiectau llwyddiannus yn treialu ffyrdd creadigol ac arloesol o estyn allan at gymunedau lleol.

Dyma un o’r gweithredoedd cyntaf wrth i brosiect Cymraeg i Bawb ehangu ei waith o hyrwyddo addysg Gymraeg – prosiect a sefydlwyd yn wreiddiol yn ne-ddwyrain Cymru – i weddill y wlad. Cafwyd ceisiadau llwyddiannus gan ysgolion o bob cwr o Gymru, gan danlinellu’r galw a’r potensial cenedlaethol.

Mae’r prosiect hefyd yn cydnabod yn llawn y bartneriaeth allweddol â Llywodraeth Cymru, sy’n galluogi Mentrau Iaith Cymru i ddarparu cymorth i ysgolion drwy brosiect Cymraeg i Bawb. Mae Cymraeg i Bawb yn annog ysgolion a chymunedau i fanteisio ar y cymorth sydd ar gael, ac yn dathlu’r cam pwysig hwn fel carreg filltir gyffrous yn natblygiad addysg Gymraeg ledled Cymru.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, Mark Drakeford: “Bydd y prosiectau hyn yn helpu i gryfhau mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg i bawb. Bydd y cymorth hwn gan Lywodraeth Cymru yn ehangu gwaith da Cymraeg i Bawb ledled Cymru ac mae’n gam pwysig ar ein taith tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”