Mae dathliad Croeso Cyngor Abertawe yn dychwelyd dros benwythnos Dydd Gŵyl Dewi, gyda’r digwyddiadau Croeso x Nightworks yn cynnig rhaglen fywiog o gigs dwyieithog, mynediad am ddim ar draws lleoliadau llawr gwlad y ddinas.

Mae’r rhaglen yn cychwyn ar nos Wener y 27ain o Chwefror gyda noson o post-pync a roc amgen yn lleoliad The Bunkhouse gyda Slate.
Yn dod i’r amlwg o ddyfnderoedd sin gerddoriaeth gynyddol Caerdydd, ac yn etifeddion i’r traddodiad storïwyr eu gwlad, mae Slate. Mae’r grŵp pedwar aelod yn ail-ddychmygu sylfeini gothig new-wave, gan wefru eu sain â grym melodig ac angerdd post-pync. Cafodd eu senglau cyntaf, “Tabernacl” a “St Agatha“, ganmoliaeth yn yr NME, Clash, So Young, DIY a mwy, yn ogystal ag ar y radio gan Huw Stephens a Steve Lamacq ar BBC 6Music, a Jack Saunders ar BBC Radio 1. Mae adfer hunaniaeth Gymreig, a chariad at farddoniaeth sydd wedi’i blethu yn eu perfformiadau byw, yn ddylanwadau sy’n cyflwyno Slate fel artistiaid diddorol ac angenrheidiol.
Yn ymuno â Slate mae Los Blancos a’u roc slacyr melodig, y pedwarawd roc-amgen VAIN, a Pypi Slysh, prosiect 6 aelod Sam Stevens a Siôn Teifi Rees o Geredigion sydd hefyd yn cynnwys aelodau o Mellt a Slate.
Ar nos Sadwrn yr 28ain o Chwefror bydd gig ar y cyd gan Twat Union a HMS Morris yn lleoliad yr Elysium.
Mae’r grŵp pync a chomedi ffeministaidd, Twat Union, yn dod â’u hiwmor nodweddiadol, pryfoclyd a’u sioe gynhwysol i Abertawe fel rhan o’u taith o’r DU.
Mae HMS Morris yn fand sy’n ffynnu ar groesffordd celf-bop, theatrigrwydd ac archwilio di-ofn.Mae eu perfformiadau byw bythgofiadwy wedi’u harwain ledled y byd – o Texas i Tokyo a Toronto, ac i lwyfannau Gŵyl Green Man, Glastonbury, Other Voices a llawer mwy – gan syfrdanu cynulleidfaoedd gyda chymysgedd unigryw o anhrefn llawen a cherddoriaeth fanwl grefftus.
Yn ymuno â nhw ar y bil hwn a gyflwynir mewn cydweithrediad â Mioe Creative Productions a R*E*P*E*A*T Records bydd The Nanaz a’u harddull pync wedi’i ysbrydoli gan X-Ray Spex, a pop swnllyd Flatcat.
Dywedodd Amina Abu-Shahba o Mioe Creative Productions, “Rydym yn falch iawn o gydweithio ar y lein-yp hwn dan arweiniad menywod fel rhan o’n dathliadau Dydd Gŵyl Dewi o’r enw, Menywod sy’n Creu Cymru. Rydym yn edrych ymlaen at noson o gerddoriaeth fyw ardderchog.“.
Gyda’r nos ar y 1af o Fawrth, mae Gwilym Bowen Rhys yn chwarae sioe acwstig arbennig yn Nhŷ Tawe. Wedi dros ddegawd o ganu ar lwyfannau ledled Cymru a thu hwnt, mae Gwilym Bowen Rhys wedi sefydlu ei hun fel un o berfformwyr acwstig amlycaf Cymru. Yn hanu o Arfon, fe’i magwyd yn y traddodiad Eisteddfodol, a dros y blynyddoedd fe ddatblygodd ei ddiddordeb mewn canu gwerin a hen ganeuon a cherddi. Mae ei gerddoriaeth yn gyfuniad o’r hen a’r newydd, a’i lais a’i berfformiadau yn symud yn ddiymdrech rhwng y swynol a melfedaidd i’r gwyllt ac amrwd.

Yn chwarae cyn Gwilym bydd Llio Heledd, cerddor o Dreforys, Abertawe yn wreiddiol. Astudiodd yn Aberystwyth ac Utrecht a bellach mae’n byw yng Nghaerdydd. Yno, dechreuodd gyfansoddi caneuon gyda’r gitâr, a cheisio’r gynghanedd. Gwelir defnydd o’r modd hynafol yma o farddoniaeth Gymraeg yn ei chaneuon ac yn ei sengl gyntaf “Afon” sy’n adlewyrchiad ar brofiad o fagwraeth Gymraeg yn Abertawe fel plentyn ifanc.
Mae pob gig yn rhad ac am ddim i fynychu, ond gallwch sicrhau eich lle trwy archebu tocynnau am ddim trwy lwyfannau’r lleoliadau neu drwy ymweld â www.croesobaeabertawe.com
Cyflwynir rhaglen adloniant Croeso mewn partneriaeth â Menter Iaith Abertawe. Mae gwaith Menter Iaith Abertawe yn cynnwys creu cyfleoedd i bobl o bob oedran ddefnyddio a mwynhau’r Gymraeg ar draws Dinas a Sir Abertawe.
Mae’r rhaglen Croeso x Nightworks yn rhan o ddigwyddiad Croeso ehangach Cyngor Abertawe, gŵyl sy’n dathlu popeth Cymreig. Yn ogystal â’r rhaglen gerddoriaeth fyw, bydd arddangosiadau coginio, diddanwyr stryd, gweithdai, celf a chrefft a llwybr i blant ar draws canol dinas Abertawe rhwng dydd Sadwrn y 28ain o Chwefror a dydd Sul y 1af o Fawrth 2026.
Dywedodd y Cynghorydd Elliott King, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Hawliau Dynol a Chydraddoldeb yng Nghyngor Abertawe: “Mae’r rhaglen Croeso x Nightworks yn gyfle gwych i ddarganfod artistiaid newydd yng nghanol y ddinas yn lleoliadau cerddoriaeth fyw llawr gwlad Abertawe. Mae artistiaid dwyieithog newydd bywiog wrth galon Croeso, fel dathliad o falchder Cymreig. Rydym wrth ein bodd i fod yn cydweithio â Menter Iaith i gyflwyno’r rhaglen eithriadol hon.“
Cyflwynir Croeso gan Gyngor Abertawe mewn cydweithrediad â Shirgar Butter, ac fe’i cefnogir gan Fwyd a Diod Cymru.
Am ragor o wybodaeth ewch i www.croesobaeabertawe.com
Ymholiadau: special.events@swansea.gov.uk