Mae Mentrau Iaith Cymru yn cynnal ymgyrch “Dyblu’r Defnydd” sy’n gwahodd aelodau’r cyhoedd i rannu syniadau sut mae cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn eu cymunedau nhw. Daeth un awgrym i’r amlwg dro ar ôl tro, sef bod angen gallu adnabod gofodau lle gall rywun ymarfer eu Cymraeg yn hamddenol mewn cyd-destun bywyd go iawn. Nododd sawl unigolyn y byddai’n dda gallu adnabod busnesau lle gallai siaradwyr newydd wybod fod croeso iddynt yno i gael sgwrs anffurfiol yn Gymraeg.
Ar y cyd â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol rydym wedi lansio prosiect arbennig o’r enw “Hapus i Siarad” gyda busnesau bach. Yn syml iawn, mae’r prosiect yn rhoi cyfle i siaradwyr newydd i gael sgwrs mewn busnes bach lleol sy’n ‘hapus i siarad’! Mae busnesau’n darparu cyfleoedd hanfodol i ddefnyddio’r Gymraeg yn naturiol yn ein bywydau pob dydd yng nghymunedau Cymru.
Wedi cynllun peilot llwyddiannus yn siroedd Rhondda Cynon Taf, Ceredigion a Fflint a Wrecsam yn gynharach eleni, lansiwyd y prosiect yn genedlaethol ar Ddiwrnod Shwmae Su’mae eleni gan ddenu 355 o fusnesau mewn 62 o drefi ar draws y wlad. A dim ond lansiad y prosiect oedd hyn. Mae cyfle i fusnesau trwy Gymru gyfan bellach ymuno â’r cynllun ac arddangos poster sy’n dangos eu bod yn ‘hapus i siarad’ Cymraeg â’u cwsmeriaid.
Mae busnesau lleol, sy’n awyddus i fod yn rhan o’r cynllun, wedi derbyn poster a syniadau am sut i annog pobl, yn enwedig dysgwyr, i siarad Cymraeg a magu hyder. Felly, cadwch lygaid ar agor am y posteri!
Gallwch weld rhestrau’r busnesau ym mhob ardal ar wefan Mentrau Iaith Cymru (Hapus i Siarad | Y Mentrau Iaith). Cysylltwch i dderbyn mwy o wybodaeth ac i roi gwybod i ni am fusnesau all fod yn rhan o’r cynllun yn eich cymuned trwy anfon e-bost at post@mentrauiaith.cymru.
Gallwch gyflwyno’ch syniadau sut mae Dyblu’r Defnydd trwy fynd ar wefan Mentrau Iaith Cymru (Dyblu’r Defnydd | Y Mentrau Iaith)

