Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a’r Mentrau Iaith yn falch o gyhoeddi lansiad ail rownd eu cynllun “Hapus i Siarad” ar gyfer 2025–26. Mae’r cynllun yn cynnig cyfle i ddysgwyr Cymraeg ddefnyddio’r iaith yn naturiol yn eu cymunedau mewn busnesau bach sy’n Hapus i Siarad.
Cafodd y syniad ei ysbrydoli gan gynllun o Gatalwnia lle mae ‘Voluntariat per la Llengua’ yn cynnal cynllun tebyg iawn yn llwyddiannus.
Ar 15 Tachwedd 2025, bydd dysgwyr yn cael taith dywys i ymweld â’r busnesau sy’n rhan o’r cynllun ar “Fore Hapus i Siarad” mewn naw tref ar draws Cymru i lansio ail rownd y cynllun eleni. Ond cynllun parhaus ydy Hapus i Siarad gafodd ei beilota yn ardaloedd Rhondda Cynon Taf, Fflint a Wrecsam, a Cheredigion, a’i lansio’n genedlaethol am y tro cyntaf llynedd.
Medd Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg, “Mae’r Ganolfan wrth eu boddau’n gweithio gyda Mentrau Iaith Cymru i roi cyfle i ddysgwyr roi eu sgiliau Cymraeg ar waith yn eu cymunedau. Mae hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg yn ganolog i waith y Ganolfan.”
Eleni bydd y Mentrau Iaith yn parhau i weithio gyda’r busnesau ac ehangu’r cynllun i drefi ac ardaloedd newydd. Cyflwyno’r cyfle i fwy o ddysgwyr ydy nod “Bore Hapus i Siarad” ar 15 Tachwedd.
Medd Daniela Schlick, Rheolwr Busnes a Phrosiectau gyda Mentrau Iaith Cymru:
“Mae busnesau’n rhan bwysig o’n cymunedau a’n bywydau pob dydd ac felly’n yn fwy na llefydd i brynu pethau. Maen nhw’n llefydd i bobl gyfarfod ei gilydd, cael sgwrs a bod yn rhan o’r gymuned – lleoliadau gwych i ymarfer siarad Cymraeg.”
Mae’r busnesau sy’n rhan o’r cynllun yn arddangos poster “Hapus i Siarad” yn eu ffenestri neu wrth y til i ddangos eu bod yn hapus i groesawu dysgwyr am sgwrs yn Gymraeg.


Mae’r dysgwyr yn derbyn cerdyn teyrngarwch gan eu tiwtoriaid a’r Mentrau Iaith lleol i gasglu stamp neu lofnod gan dri busnes lle maent wedi cael sgwrs yn Gymraeg. Bydd y cardiau yn mynd i mewn i gystadleuaeth am benwythnos preswyl yn un o’r canolfannau Cymraeg yng Nghymru. O’r holl gardiau sy’n cael eu cyflwyno bydd enw’r enillydd yn cael ei dynnu o’r het mewn digwyddiad ar 3 Awst yn ystod Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Glas.
Mae cyfle i’r dysgwyr anfon eu cardiau tan 17 Gorffennaf 2026 trwy e-bost at post@mentrauiaith.cymru neu eu cyflwyno i’w tiwtoriaid.


Sue Vanstone o ardal Dwyfor oedd yr enillydd lwcus llynedd. Treuliodd benwythnos yn dysgu Cymraeg yn Nant Gwrtheyrn yn ddiweddar.
“Diolch i ‘Hapus i Siarad’ am y profiad gwych i fynd i Nant Gwrtheyrn. Mae lle bendigedig i ymarfer Cymraeg, hefyd y cyfle i drïo celf, yoga a dawnsio gwerin yn Gymraeg.”
Bydd Bore Hapus i Siarad ar 15 Tachwedd yn y naw tref yma: Porthmadog, Dinbych, Llanbedr Pont Steffan, Trefdraeth, Pontardawe, Porthcawl, y Bont-faen, Pontcanna, a’r Fenni. Ac mae rhestr lawn o’r busnesau ar draws Cymru ar wefan Mentrau Iaith Cymru.











