Mae’n bleser cyhoeddi taith newydd gan Lleuwen. Mae’r daith yn rhan o brosiect ar y cyd gan PYST, Mentrau Iaith Cymru a chynllun Noson Allan Cyngor Celfyddydau Cymru: prosiect sydd eisoes wedi gweld teithiau llwyddiannus gan HMS Morris, The Gentle Good a Gwilym Bowen Rhys Trio.
Bwriad y bartneriaeth yw ail-gyflwyno cerddoriaeth Gymraeg fyw i ardaloedd gwledig Cymru ac i gynulleidfaoedd na fyddai fel arfer yn cael mynediad at gerddoriaeth fyw yn lleol. Dyma gyfle prin i glywed Lleuwen yn perfformio set o ganeuon newydd gwreiddiol (ac ambell hen glasur!) Cymraeg, cyn iddi ddychwelyd i’r stiwdio yn ddiweddarach eleni.
Bydd y daith yn gweld Lleuwen yn ymweld â 9 o leoliadau gwahanol ledled Cymru dros fis Chwefror, a mae’r tocynnau ar gael yn y ddolen yma: https://linktr.ee/mentrauiaithpyst
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’ch Menter Iaith leol neu â lea@pyst.net.
Dyddiadau’r Daith
05.02: 96 Degrees, Y Bontfaen – Menter Iaith Bro Morgannwg
06.02: Yr Hen Lyfrgell, Porth – Menter Iaith Rhondda Cynon Taf
07.02: Sip, Marchnad Casnewydd – Menter Iaith Casnewydd
13.02: Red Lions, Llanidloes – Menter Iaith Maldwyn
14.02: Y Fic, Llithfaen – Menter Iaith Gwynedd
15.02: Gwesty Owain Glyndŵr, Corwen – Menter Iaith Sir Ddinbych
19.02: Caffi Beca, Efailwen – Menter Gorllewin Sir Gâr
20.02: Y Porth, Llandysul 21.02: Caffi Lolfa, Porth Tywyn – Menter Cwm Gwendraeth Elli
