Gyda dim ond mis i fynd tan y digwyddiad, mae trefnwyr gŵyl Tafwyl, gŵyl Gymraeg Caerdydd, wedi cyhoeddi rhaglen lawn yr ŵyl.

Dros gyfnod o wyth diwrnod bydd gwledd o gerddoriaeth, llenyddiaeth, bwyd a diod, digwyddiadau i ddysgwyr, a digwyddiadau i blant ar draws Caerdydd.

Bydd yr ŵyl ymylol yn cychwyn ar Fehefin 25ain, gyda 40 o ddigwyddiadau mewn lleoliadau ledled Caerdydd gan gynnwys Yr Hen Lyfrgell, Parc y Rhath, Chapter a Canna Deli.

Yn dilyn wythnos o ddigwyddiadau, bydd y prif ddigwyddiad yn symud i erddi godidog Castell Caerdydd ar yr 2il a’r 3ydd o Orffennaf; gydag amrywiaeth liwgar o’r enwau mwyaf yng nghelfyddydau, diwylliant a chwaraeon Cymreig. Mae mynediad i Gastell Caerdydd yn rhad ac am ddim yn ystod y digwyddiad.

Bydd y cymysgedd eclectig o fandiau ac artistiaid sy’n chwarae ar draws tri llwyfan yn sicr o apelio at gynulleidfa eang. Maffia Mr Huws, Y Niwl, Pres Band Llareggub, Sŵnami a Candelas sydd ymhlith y bandiau yn perfformio ar y Brif Lwyfan. Draw ar y Llwyfan Acwstig, bydd Meic Stevens, Alys Williams, Colorama, Plu, Al Lewis a Huw M ymysg y dalent o bob cwr o Gymru.

Bydd blas o’r cynnyrch gorau o Gymru ar gael ym Mhabell Bwyd a Diod yr ŵyl, gyda sesiwn goginio ag un o brif gogyddion Cymru Bryn Williams, Padrig Jones a bwyty ‘Y Dosbarth’. Yn ogystal â demos coginio, bydd digon o gyfle i roi cynnig ar ddiodydd gorau Cymru; gan gynnwys sesiwn blasu gwin gyda Pant Du, dosbarth meistr coctel gyda Be at One Cocktail, a sesiwn blasu gin gyda Dà Mhìle Distillery.

Mae ardal fwyd Tafwyl yn ŵyl yn ei hun gydag amrywiaeth enfawr o stondinau bwyd, gan gynnwys Bangkok Cafe, Grazing Shed, Meat & Greek a Vegetarian Food Studio. Bydd bar coctel Milgi yno hefyd a’n siŵr o dorri syched.

Mae uchafbwyntiau eraill yn cynnwys trafodaethau panel gyda Jon Gower, Beti George, Lowri Haf Cooke a Chlwb Comedi Tafwyl gyda chomediwyr fwyaf cyffrous y sîn.

Am y tro cyntaf eleni bydd ardal arbennig ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau. Ardal ymlacio ac yurt llawn gweithgareddau a gweithdai yw Yurt T, gyda sesiynau i gynnwys salon gliter a cholur gŵyl, bŵth ffotograffiaeth a ffasiwn, a pherfformwyr tân Nofit State.

Dywedodd trefnydd yr ŵyl Llinos Williams o Menter Caerdydd:

“Dyma’r rhaglen orau a’r fwyaf rydym wedi rhoi at ei gilydd dros y deng mlynedd diwethaf.

Mae amrywiaeth wych o weithgareddau ar gyfer pob oedran, sy’n arddangos y gorau o’r hyn sydd gan Gaerdydd, a Chymru i’w gynnig.

Does unman gwell i ddal y gorau o’r sîn Gymraeg ar hyn o bryd, ac i ddarganfod rhywbeth newydd.”

Mae rhaglen lawn Tafwyl i’w gweld yma: http://bit.ly/TafwylIssuu, ac mae modd dal fyny â newyddion diweddaraf ŵyl ar www.tafwyl.cymru, Facebook a Twitter.