Mae’r rhaglen lawn wedi’i chyhoeddi ar gyfer Gŵyl Tawe 2026 sy’n cael ei chynnal ar safle Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe ar ddydd Sadwrn y 6ed o Fehefin.
Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim i’w fynychu ar system gyntaf i’r felin, gyda’r amgueddfa’n agor am 10yb a’r rhaglen yn cychwyn gyda Llwyfan Cymunedol newydd yng nghyntedd yr amgueddfa, wedi’i gefnogi gan Coleg Gŵyr Abertawe. Wedi’i gyflwyno mewn partneriaeth â Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot, bydd y llwyfan hwn yn cynnwys amrywiaeth eang o berfformiadau gan ysgolion a cholegau’r rhanbarth rhwng 10:15 a 14:00.
Ar gyfer plant a theuluoedd sy’n mynychu, bydd yna hefyd gweithdai theatr rhyngweithiol gan Theatr na nÓg yng Ngweithdy’r Glannau, yn ogystal â pherfformiadau crwydrol gan Cwmni Theatr Familia a We Are Pom Pom People. Yng nghyntedd yr amgueddfa, bydd yr artist Rhys Padarn hefyd yn cynnig gweithdy galw i mewn a fydd yn galluogi mynychwyr i greu darn o gelf Gŵyl Tawe yn ei arddull Orielodl eiconig.
Mae’r rhaglen gerddoriaeth fyw yn cychwyn am 12:15 ar lwyfan y Taliesin yn yr Ystafell Ocean gyda set gan Coron Moron. Wedi’i ffurfio yn 2024 i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn, fe wnaethant ryddhau eu sengl gyntaf, ‘Cawl’, sy’n dathlu daioni bwyd iachus, cyfeillgarwch a chymuned yn 2025.
Mae’r gerddoriaeth fyw yn rhedeg am yn ail rhwng Llwyfan y Taliesin a Llwyfan Cymru Greadigol yng ngardd yr amgueddfa, gan gynnwys set gan westeion arbennig Carwyn Ellis & Rio 18. O bosib yr unig grŵp cerddorol i gyfuno cerddoriaeth Lladin o bob math â’r iaith Gymraeg, mae Carwyn Ellis & Rio 18 yn gydweithfa ryngwladol a ffurfiwyd gan y cyfansoddwr, canwr, aml-offerynnwr a chynhyrchydd Carwyn Ellis ar ôl ei ymweliad cyntaf â De America yn 2018 fel aelod o’r Pretenders.
Yn cloi Llwyfan y Taliesin bydd Cowbois Rhos Botwnnog – band gwlad/gwerin/roc amgen sy’n cynnwys y tri brawd Iwan, Aled a Dafydd Hughes, ynghyd â lein-yp o gerddorion eraill sy’n cylchdroi. Enillodd eu halbwm diweddaraf, ‘Mynd â’r Tŷ am Dro’ (2024), Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac mae’n parhau â’u rhediad fel un o fandiau mwyaf nodedig a phoblogaidd Cymru.
Yn cloi’r ŵyl ar lwyfan Cymru Greadigol bydd Gwenno a’r band. Mae Gwenno Saunders wedi bod yn gweithio fel cerddor a chynhyrchydd proffesiynol ers dros 25 mlynedd ac wedi rhyddhau 2 EP, 4 albwm unigol, a 2 albwm llawn gyda’r grŵp indie-pop The Pipettes. Fel cyfansoddwr a chynhyrchydd, mae hi wedi ennill nifer o wobrau gan gynnwys Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2015 am ei halbwm unigol cyntaf ‘Y Dydd Olaf’ a chyrhaeddodd restr fer Gwobr Gerddoriaeth Mercury yn 2022 am ei thrydydd albwm ‘Tresor’. Yn 2025 rhyddhaodd Gwenno ei phedwerydd albwm unigol, ‘Utopia’, ar Heavenly Recordings.
Yn camu i lwyfan Cymru Greadigol cyn Gwenno fydd Melin Melyn, sy’n dychwelyd i Abertawe wedi dwy sioe llawn dop yn lleoliad y Bunkhouse. Mae eu halbwm cyntaf ‘Mill on the Hill’ yn gweld y band yn neidio rhwng roc syrffio, canu gwlad, prog-roc a seicedelia gyda steil a sgil band sydd eisoes wedi rhyddhau nifer o recordiau, wedi’u plethu gan egwyddor thematig ddychmygus.
Mae’r lein-yp cerddorol llawn ar draws y ddau lwyfan hefyd yn cynnwys Candelas, Cerys Hafana, Chwaer Fawr, Griff Lynch, Melys, a Mwsog. Mae’r amserlen lawn a rhagor o wybodaeth ar gael nawr trwy wefan Menter Iaith Abertawe.
Bydd cyntedd yr amgueddfa hefyd yn cynnal amrywiaeth o stondinau a gweithgareddau ychwanegol gan bartneriaid Menter Iaith Abertawe drwy gydol y dydd, tra rhwng 15:30-19:00 yng Ngweithdy’r Glannau bydd rhaglen arbennig o ffilmiau byr wedi’i rhaglennu mewn partneriaeth ag Am. Yn ogystal â sesiynau Gŵyl Tawe eleni wedi eu recordio mewn gwahanol leoliadau o amgylch Abertawe, bydd hefyd dangosiadau o ffilmiau AmCam3, rhifyn arbennig o’r ŵyl ffilmiau digidol i ddathlu Dydd Miwsig Cymru 2026.
Cyn y dydd Sadwrn yn yr amgueddfa bydd yna hefyd noson agoriadol yn lleoliad y Bunkhouse gyda The Joy Formidable, Breichiau Hir, Pat Morgan (Datblygu), a Crinc ar nos Wener y 5ed o Fehefin. Mae pob tocyn eisoes wedi ei gwerthu ar gyfer y digwyddiad yma.
Cyflwynir Gŵyl Tawe 2026 gan Menter Iaith Abertawe mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru, gyda chefnogaeth gan Llywodraeth Cymru trwy Cymru Greadigol, Cyngor Abertawe, The Bunkhouse Swansea, Coleg Gŵyr Abertawe, Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe, Canolfan Celfyddydau’r Taliesin, a chyllid gan Cyngor Celfyddydau Cymru.


