Mae’r manylion cyntaf ar gyfer Gŵyl Tawe eleni, gŵyl gelfyddydol iaith Gymraeg Abertawe, wedi cael eu cyhoeddi.
Yn dychwelyd i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn ardal marina’r ddinas ar ddydd Sadwrn y 7fed o Fehefin, bydd Gruff Rhys yn cloi’r digwyddiad ar gyfer 2025.
Yn flaenorol yn fwyaf adnabyddus fel prif leisydd y Super Furry Animals – band a lwyddodd i gyflawni’r cymysgedd prinnaf o antur artistig gydag ymroddiad poblogaidd – cyfunodd roc, harmonïau pur ac electroneg flaengar, tra gyda’i fand arall, Neon Neon, dogfennodd fywydau’r gwneuthurwr ceir maverick John DeLorean a’r actifydd a chyhoeddwr Giangiacomo Feltrinelli mewn arddull sgrin lydan.
Gyda’u halawon dedwydd, mae ei recordiau unigol wedi archwilio ardaloedd newydd yn delynegol hefyd. Fe wnaeth y gyntaf, ‘Yr Atal Genhedlaeth’ yn 2005, orfoleddu ar fwyseiriau Cymraeg. Fe wnaeth ‘American Interior’ yn 2014 ddathlu’r fforiwr annhebygol ond dylanwadol o’r 18fed ganrif John Evans. Cynigiodd ‘Babelsberg’ ogwydd baróc ar y byd modern yn 2018, tra flwyddyn yn ddiweddarach cyflwynodd ‘Pang!’ – mash-up amlieithog, wedi’i yrru gan bleeps gwerinol wedi’u crefftio mewn cydweithrediad â’r artist-gynhyrchydd o Dde Affrica, Muzi.
Fodd bynnag, er bod yr holl recordiau hynny yn sicr yn torri tir newydd, llwyddodd ‘Seeking New Gods’, a gyrhaeddodd y deg uchaf yn y siartiau, i dorri tir cwbl newydd yn delynegol ac yn gerddorol. Yn ei seithfed record unigol creodd Gruff Rhys gofnod cysyniadol am ei fynydd ei hun, a’r record hon oedd yr un a enillodd y mwyaf o glod beirniadol iddo, yn ogystal â dod â’r mwyaf o lwyddiant masnachol iddo. Yn 2024 rhyddhawyd ei ddilyniant, ‘Sadness Sets Me Free’, a chasglodd adolygiadau gwych ac ystyrir i fod ymhlith ei waith gorau.
Bydd y rhaglen gerddorol llawn yn dilyn mis nesaf, gyda gwledd o artistiaid i’w cyhoeddi ar draws dau brif lwyfan yr ŵyl. Mae’r ŵyl yn rhad ac am ddim i fynychu ar system gyntaf i’r felin, gyda’r amgueddfa yn agor am 10yb a’r adloniant yn rhedeg hyd at 9yh.
“Rydym wrth ein boddau i groesawu Gruff Rhys a’i fand i Abertawe ar gyfer Gŵyl Tawe eleni. Mae’r ŵyl eleni yn addo i fod yr un mwyaf eto, ac rydym yn gyffrous i allu rhannu’r rhaglen lawn gyda phawb mis nesaf. Mae parhau i gynnig y digwyddiad hwn am ddim yng nghanol y ddinas yn bwysig iawn i ni, a rydym yn edrych ymlaen at groesawu ystod eang o bobl yma eto eleni er mwyn dathlu’r ystod o ddiwylliant a chelfyddydau iaith Gymraeg.” – Tomos Jones; Prif Swyddog, Menter Iaith Abertawe / Cyfarwyddwr Creadigol, Gŵyl Tawe.
Yn ogystal â’r rhaglen cerddoriaeth fyw, bydd perfformiadau a gweithdai theatr rhyngweithiol gan Mewn Cymeriad, Theatr na nÓg, a Familia de la Noche. Bydd llwyfan Galeri’r Warws yn arddangos amrywiaeth o berfformiadau gan ysgolion lleol, tra bydd yr artist Rhys Padarn yn cynnig gweithdai a fydd yn galluogi mynychwyr i greu gwaith celf arbennig ar thema’r ŵyl yn ei arddull Orielodl eiconig. Bydd partneriaid Menter Iaith Abertawe hefyd yn cynnig amrywiaeth ychwanegol o stondinau a gweithgareddau yng nghyntedd yr amgueddfa.
Mae prosiect newydd ar gyfer yr ŵyl eleni wedi gweld galwad agored ar gyfer cyfarwyddwyr newydd i recordio cyfres o sesiynau byw mewn lleoliadau gwahanol ar draws Abertawe. Bydd y sesiynau yma yn cael eu rhyddhau trwy sianel AM Cymru Menter Iaith Abertawe wrth arwain at yr ŵyl, yn ogystal â chael eu harddangos ar y sgrin fawr ar y diwrnod. Hefyd ar y sgrin fawr bydd perfformiad arbennig gan grŵp o bobl ifanc wedi ei ddatblygu gan aelodau clwb clocsio wythnos a sesiwn werin misol Menter Iaith Abertawe, wedi ei arwain gan y cerddorion Angharad Jenkins a Rhodri Davies.
Cyflwynir Gŵyl Tawe 2025 gan Menter Iaith Abertawe mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru, gyda chefnogaeth bellach gan Gyngor Abertawe a’r Bunkhouse Abertawe, a chyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Ymholiadau: swyddfa@menterabertawe.org
