Fe wnaeth dros 5,400 o blant gymryd rhan yng nghystadleuaeth dylunio het bwced y Mentrau Iaith. Mae’r Mentrau Iaith yn diolch i’r plant i gyd, eu rhieni a’u hysgolion am gystadlu.

Dechrau mis Hydref lansiodd y Mentrau Iaith y gystadleuaeth i blant a phobl ifanc dan 18 oed gyda’r cyfle i ennill set o hetiau bwced i’r dosbarth cyfan yn cynnwys y dyluniad buddugol. Sioned Dafydd, Geraint Løvgreen a Tim Williams (Spirit of ’58) oedd y beirniaid.

“Dy’n ni wedi cael ein sbwylio gan gymaint o hetiau bwced sy’ wedi cael eu dylunio! Ni wedi cael bach o waith i benderfynu pa rai oedd y rhai gorau”, medd Sioned Dafydd.

“Mae’n bleser mawr gweld bod cymaint o blant o bob man yng Nghymru wedi cymryd rhan. Roedd y gystadleuaeth yn apelio at blant Cymraeg a di-Gymraeg yr un fath. Mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Ac mae’r wobr yn apelio hefyd, wrth gwrs!” medd Daniela Schlick, Cydlynydd Prosiectau gyda Mentrau Iaith Cymru.

Penny Grice o Gaerfyrddin yw enillydd y gystadleuaeth. Zakia Johnson o Rydaman, Lili Wen o Ruthun ac Ifan Midwood o Forfa Nefyn ydy’r 3 arall ddaeth i’r brig.

Penny Grice o Gaerfyrddin, enillydd y gystadleuaeth

Meddai Geraint Løvgreen yn ei feirniadaeth:

Dan ni’n hoff iawn o’r lliwiau a geiriau ‘Yma o Hyd’ yn mynd o gwmpas y band canol. Ac mae’r galon efo bathodyn Cymru yng nghanol y bathodyn yn wych hefyd. Roedd hi’n gystadleuaeth safonol iawn. Does ‘na ddim prinder dylunwyr talentog ifanc yng Nghymru. Dan ni wrth ein bodd efo’r 4 het. Basai pob un ohonyn nhw’n gallu ennill a baswn i’n hapus iawn.

Bydd Penny a’i dosbarth cyfan yn derbyn set o hetiau bwced gyda’i dyluniad arnynt. Ac fel bonws mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gwahodd Penny i wylio sesiwn hyfforddiant tîm pêl-droed Cymru yn y gwanwyn.

Bydd Zakia, Lili Wen ac Ifan yn derbyn tocyn anrheg o siop Spirit of ’58 fel gwobr.

“Hoffem i’r plant gael cyfle gweld eu hetiau wedi’u harddangos. Maen nhw wir yn haeddu’r clod” eglura Daniela Schlick, Mentrau Iaith Cymru. Felly bydd y Mentrau Iaith yn cynhyrchu cyfres o fideos gyda mwy o hetiau bwced i ddangos yr amrywiaeth eang o ddyluniadau ac i ddiolch unwaith eto i’r plant oedd mor frwdfrydig yn cymryd rhan. 

Mae rhwydwaith y Mentrau Iaith yn un o’r partneriaid allweddol o Bartneriaeth Cwpan y Byd Llywodraeth Cymru ac yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau cyffrous i ddathlu tîm pêl-droed Cymru a’u llwyddiant o gyrraedd Cwpan y Byd Pêl-droed yn Qatar eleni.

Cyhoeddi enillydd cystadleuaeth het bwced