Eto eleni mae’r Mentrau Iaith yn gallu cynnig teithiau tywys o dan faner Ar Droed i ddysgwyr Cymraeg a hynny am y 5ed flwyddyn yn olynol diolch i bartneriaeth gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Ymweld ag Amgueddfeydd ar draws Cymru, teithiau natur a theithiau i leoliadau arwyddocaol oedd themâu’r teithiau blaenorol. Eleni bydd y gyfres o 6 thaith yn ymweld â chestyll a stadia ledled Cymru rhwng Medi 2025 a Mawrth 2026.
Rhwng mis Medi 2025 a mis Mawrth 2026 bydd cyfle i ddysgwyr Cymraeg a siaradwyr profiadol ymweld â 3 castell a 3 stadiwm eiconig yng Nghymru. Bydd teithiau tywys o amgylch y cestyll a stadia, ac mae’r teithiau yn gorffen gyda phaned a sgwrs. Mae’r teithiau cerdded yn rhoi cyfleoedd unigryw i siaradwyr newydd a dysgwyr Cymraeg ddefnyddio’r iaith mewn awyrgylch hamddenol, cymdeithasol a chroesawgar. Bydd pob taith yn cael ei harwain gan dywysydd lleol, gyda chyfle i ddarganfod mannau arbennig ledled Cymru.
Bydd y gyfres newydd o Deithiau Ar Droed yn cychwyn ym mis Medi yn Stadiwm Swansea.com lle bydd Gabriella Jukes yn ymuno ar gyfer sesiwn holi ac ateb ac am gyfle i’r mynychwyr sgwrsio gyda hi. Yna, yn Hydref, bydd taith i fyny i Gastell Dolwyddelan gyda’r tywysydd Arfon Hughes, gan fwynhau lliwiau’r hydref o gwmpas y castell cyn gorffen gyda phaned yn y pentref. Wythnos yn ddiweddarach bydd cyfle i grwydro Castell Cyfartha gyda Phyl Griffiths, a hynny cyn mwynhau paned yng nghaffi’r castell. Yn ddiweddarach yn yr un mis, bydd Gwyn Derfel o Undeb Rygbi Cymru yn arwain taith unigryw tu ôl i’r llenni yn Stadiwm Principality, stadiwm enwocaf Cymru. Ym mis Chwefror, bydd y dysgwyr yn cael ymweld â Chastell Aberteifi ar ddwy daith gyda Hedd Ladd Lewis, gan fwynhau paned a cherddoriaeth ym mwyty’r castell, gyda’r opsiwn i aros dros nos i ymestyn y profiad. Yn y gwanwyn, bydd y gyfres yn cloi gyda thaith i’r Cae Ras yn Wrecsam, cartref clwb pêl-droed enwog Wrecsam AFC, gan roi blas ar stadiwm eiconig arall i’r mynychwyr. Cadwch eich llygaid ar agor am cyhoeddi’r dyddiad ar gyfer y daith ddiddorol yn y flwyddyn Newydd!
Meddai Daniela Schlick, Rheolwr Busnes a Phrosiectaugyda Mentrau Iaith Cymru:
“Mae’r Mentrau Iaith ar draws Cymru yn weithgar iawn yn trefnu a chynnal gweithgareddau yn Gymraeg i bawb gael cyfle i fwynhau siarad Cymraeg yn eu cymunedau. Mae adborth y mynychwyr o’r teithiau o’r blaen wedi bod mor gadarnhaol. Maent yn mwynhau’r teithiau cymaint – y cymdeithasu a’r ffaith ein bod yn cynnig rhywbeth arbennig iddyn nhw. Felly rydym yn falch iawn o allu cynnal teithiau ‘Ar Droed’ eto eleni. Mae’r teithiau hefyd yn gyfle i ddysgu am hanes, diwylliant a diwydiant Cymru sydd yn rhan bwysig o ddysgu iaith.”
“Mae teithiau Ar Droed wedi bod yn gyfle gwych i ddysgwyr Cymraeg ddefnyddio’r iaith tu allan i’r ystafell ddosbarth. Gyda Diwrnod Shwmae Su’mae ar 15 Hydref, sydd bellach yng ngofal y Mentrau Iaith, rydym yn falch o allu cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau Cymraeg i bawb.”
Mae’r teithiau i siaradwyr Cymraeg – hen a newydd. Ac mae croeso arbennig i aelodau cynllun SIARAD gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae’r teithiau yn gyfle gwych i ymarfer a defnyddio’r Gymraeg mewn sefyllfaoedd cymdeithasol, wrth fwynhau treftadaeth a diwylliant Cymru.
Am fwy o wybodaeth ac i gadw lle ar y teithiau rhad ac am ddim hyn, e-bostiwch ardroed@mentrauiaith.cymru
Dyma’r teithiau eleni:
- Stadiwm Swansea.com – 24/09/2025 | 10:00yb – 12:00yp
- Castell Dolwyddelan – 04/10/2025 | 10:30yb – 1:00yp
- Castell Cyfartha – 11/10/2025 | 10:30yb – 12:30
- Stadiwm Principality, Caerdydd – 21/10/2025 | 10:30yb – 12:00yp
- Castell Aberteifi – 25/02/2026 | 11:00yb – 12:30yp ac 2:00yp – 3:30yp
- Y Cae Ras, Wrecsam – Mawrth 2026






