Yn ystod mis Mai eleni, mae’r Mentrau Iaith wedi bod yn cynnal ymgyrch i gasglu llofnodion a negeseuon cefnogaeth pobl o bob cwr o Gymru i dîm Pêl-droed Cymru wrth iddynt baratoi a theithio i Ffrainc ar gyfer Pencampwriaeth Ewro 2016.

Gyda dros 20,000 o negeseuon Cymraeg, ar 23 pêl anferth yn cael eu cyflwyno i’r tîm, dyma fideo i ddymuno’n dda i’r Tîm.

Cmon Cymru.

Cofia ddilyn #DiolchCymru #CmonCymru ar Facebook a Twitter i weld fideos a lluniau o gefnogaeth o dy ardal di. Cei hefyd gysylltu â dy fenter iaith leol i glywed mwy am brosiectau tebyg.