Mae penwythnos gwylio adar yr ardd newydd fod, a bydd llawer ohonoch wedi treulio awr yn cyfrif faint o adar, a pha rywogaethau, oedd yn ymweld â’ch gerddi. Roeddwn innau wedi ail-lenwi’r tiwbs hadau rai dyddiau ynghynt, a dyma fi yng nghuddfan yr ystafell fyw gyda phensil a phapur, yn barod i dicio’r hyn a welwn. Bydd y wybodaeth a gesglir ledled y wlad bob blwyddyn yn sail pwysig i ddeall sut mae gwahanol rywogaethau adar yn ffeirio.

Y cyntaf i’r ardd oedd dau robin yn landio rhwng y perthi cyrens, cyn hedfan i’r goeden ‘falau ac ymlaen at fwyd mwy helaeth yr ardd nesaf. Bron yr un amser gyrhaeddodd dau aderyn du, hefyd â diddordeb yn yr hyn sydd i gael ar y llawr rhwng dail, brigau a ffrwythau yn pydru. Nid oedd rhaid aros yn hir am ymwelwyr rheolaidd y goeden cnau Ffrengig, llond llaw o Jac-y-Do swnllyd.

Un o fy ffefrynnau yw aderyn y to. Am ugain mlynedd yn fy nhŷ yn Rachub, bu adar y to yn gwmni i mi bob bore. Dau neu dri nyth oedd dan y bondo, yn cael eu defnyddio a thrwsio bob blwyddyn. Yn ddi-ffael cefais fy neffro gan dwrw hapus yn datgan dyfod dydd.

Ar ôl i mi symud, bûm yn falch o ddarganfod haid bach ohonynt wedi ymgartrefu yn y wrych sy’n tyfu ar ben wal o flaen y tŷ, a bydda i’n eu gwylio yn mynd o gwmpas eu pethau o ffenest y llofft. Mae na rywbeth reit ffrantig am eu trydar, ac yn hynny o beth maen nhw’n ffitio’n dda i sainwedd Bethesda gyda’r chwarel, yr A5 a gwifren fawr ZIPfyd.

Ceir cliw yn yr enw Lladin, passer domesticus, (fel yn yr enwau Cymraeg a Saesneg) bod adar y to yn mwynhau cwmni pobl, ac er mor gyfarwydd, trist dweud mai prinhau mae’r adar bach cymdeithasol hyn ym Mhrydain. Bellach gwelir nhw ar restr o bryder cadwraethol yng Nghymru, ond efallai dim yn Rachub!

I weld gwybodaeth fanylach am adar, edrychwch ar ‘Lyfr Iolo’, neu Llyfr Adar Cymru ac Ewrop sy’n adnodd safonol ar gyfer adar yn Gymraeg. I glywed cân rhai o’n hadar mwyaf cyffredin, beth am eu dysgu gyda’ch plant a’r Llyfr bach o ganeuon adar yr ardd? Gallwch hefyd ymweld â Llên Natur sy’n rhoi enwau rhywogaethau i chi yn Gymraeg a Saesneg. Mae prosiect Gwreiddiau Gwyllt a ariennir gan Gronfa’r Loteri Treftadaeth wrthi’n casglu adnoddau gyda thermau natur a fydd ar gael i’r cyhoedd mewn un man ar ddiwedd y prosiect.