Fel mae cerdd anfarwol Harri Web ‘Colli Iaith’ yn ei fynegi, os collwn iaith collwn gymaint mwy na dim ond geiriau! Mae’n ymdrech barhaol i warchod a hyrwyddo defnydd o dermau cynhenid Cymraeg ac mae hyn mor wir am y maes amgylcheddol. Yn wir, mae argyfwng newid hinsawdd a bioamrywiaeth ar ein gwarthaf yng Nghymru fach fel ledled y byd ac mae angen i ni ddeffro i hyn a chael ein tanio, a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg! Prosiect Gwreiddiau Gwyllt a ariennir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yw cam cyntaf y Mentrau Iaith tuag at helpu cyflawni hyn.

Gan weithio yn siroedd Conwy a Chastell-nedd Port Talbot yn y lle cyntaf, bydd y prosiect blwyddyn a hanner yn galluogi pobl i ymgysylltu â’r byd natur yn Gymraeg drwy weithgareddau amrywiol llawn antur a hwyl. Bydd pobl yn cael eu hannog i warchod treftadaeth naturiol eu bröydd ac fe fydd y prosiect yn gwarchod ein treftadaeth ieithyddol yr un pryd drwy gyflwyno enwau Cymraeg creaduriaid, coed a phlanhigion iddyn nhw.

Meddai Myfanwy Jones, Prif Weithredwr Mentrau Iaith Cymru “‘Rydyn ni ar drothwy prosiect cyffrous a fydd yn galluogi i ystod o ddigwyddiadau awyr agored gael eu trefnu. Bydd rhain yn cynnwys tasgau ymarferol i warchod amgylchedd lleol mynychwyr yn ogystal ậ theithiau a gweithgareddau sy’n amlygu hanesion, chwedlau ac enwau lleoedd all godi ymwybyddiaeth a thanio diddordeb bobl mewn byd natur.”

Mae’r swyddogion maes, Judith yn Sir Gonwy a Jacques yng Nghastell-nedd Port Talbot, yn edrych ymlaen at drefnu rhaglen o weithgareddau hwyliog ym mhob cwr o’u hardaloedd, gyda grwpiau, yn arbennig pobl ifanc a siaradwyr newydd. Mae Mentrau Iaith Conwy a Chastell-nedd Port Talbot yn falch o gael cymryd rhan yn y prosiect yma sydd am fynd a nhw i gyfeiriad mymryn yn wahanol. Mae gweddill y Mentrau Iaith yn edrych ymlaen yn fawr at weld ffrwyth y prosiect er mwyn iddyn hwythau drefnu gweithgareddau tebyg.

Meddai Iolo Williams, naturiaethwr “Dyma brosiect a fydd yn pontio rhwng y sector iaith a diwylliant a’r sector amgylcheddol er mwyn cynyddu gwerthfawrogiad pobl o dreftadaeth naturiol eu bröydd. ‘Mawr obeithiaf y bydd y gweithgareddau’n tanio diddordeb mynychwyr ac yn meithrin ymdeimlad o ofal a allai eu harwain i gymryd camau i warchod byd natur eu hardaloedd. Nid poen meddwl pobl di-Gymraeg yn unig yw’r amgylchedd a ‘dwi’n gobeithio y bydd y prosiect yma’n deffro diddordeb Cymry Cymraeg a dysgwyr ynddo”.

Mae Nia Jones o Ymddiriedolaeth Byd Natur Gogledd Cymru yn croesawu prosiect Gwreiddiau Gwyllt. “ Dyma jest y peth ‘dan ni ei angen er mwyn annog pobl i ddefnyddio’r deunyddiau lliwgar Cymraeg ‘dan ni’n eu cynhyrchu ac i helpu meithrin gwarchodwyr amgylchedd y dyfodol.” Mae Mentrau Iaith Cymru yn ddiolchgar i Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol am ariannu’r prosiect. O ganlyniad i brosiect Gwreiddiau Gwyllt, maent yn gobeithio y bydd yn haws i sefydliadau, grwpiau ac unigolion gael gafael ar adnoddau ynglŷn ậ byd natur yn y Gymraeg ac y bydd mwy o adnoddau hawdd i’w defnyddio hefyd ar gael yn y dyfodol.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Rheolwr Prosiect Gwreiddiau Gwyllt, Siận Shakespear:
sian@gwreiddiaugwyllt.cymru neu 01492 643401