“Gwnewch y pethau bychain a welsoch ac a glywsoch gennyf i” oedd un o negeseuon enwocaf ein nawddsant cenedlaethol. Wrth ddathlu Dydd Gŵyl Dewi beth am geisio gwneud y pethau bychain er mwyn yr iaith Gymraeg drwy gyfrannu eich llais?

Un o brosiectau pwysicaf y byd technoleg iaith Gymraeg ar y funud yw Common Voice Cymraeg, cynllun i gasglu gymaint o leisiau posib i alluogi teclynnau adnabod lleferydd, fel Alexa, Siri a Google Home i ddeall Cymraeg.

Drwy recordio a gwrando ar ddim ond 5 clip y dydd, bydd yn arwain at gymaint mwy. Gyda’n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth.

Ewch amdani ar voice.mozilla.org/cy/

Adnabod rhywun sydd angen anogaeth i ddysgu neu ddefnyddio eu Cymraeg?
Rhannwch y daflen eirfa hon gyda nhw i’w helpu i ddefnyddio geirfa Gwyl Ddewi.

gwyl ddewi

 

 

 

 

 

 

 

 

Chwilio am ddigwyddiad i ddatlu Dydd Gŵyl Dewi?
Dyma rai o’r gweithgareddau a digwyddiadau yn ardaloedd y Mentrau Iaith lleol:

Ardal  

Digwyddiadau

 

Cwm Gwendraeth Elli 
Sir Benfro 
Rhondda Cynon Taf 
  • Gweithgareddau Plant yn Amgueddfa Pontypridd
  • Gweithgareddau gwyl Dewi gyda Cymraeg i Blant yn Aberdâr 
Merthyr Tudful
  • Cawl a Chân Dydd Gŵyl Dewi , Canolfan Soar
  • Cyngerdd Dydd Gŵyl Dewi Bedlinog, Clwb Rygbi Bedlinog yng nghwmni Cor Meibion Ynysowen
Brycheiniog a Maesyfed
  • Parade blynyddol Gŵyl Ddewi Ystradgynlais. 
Gorllewin Sir Gâr 
Maldwyn 
Ceredigion
Môn 
Fflint a Wrecsam 
Dinbych 
Dinefwr 
Caerffili 
Casnewydd 
Bro Ogwr