Fel rhan o gyfarfodydd rhanbarthol i swyddogion y Mentrau Iaith sy’n cael eu trefnu gan Fentrau Iaith Cymru ym mis Rhagfyr, cafwyd cyflwyniad a gweithgaredd arbennig gan Rhoslyn Prys ar brosiect gwirioneddol bwysig at ddyfodol y Gymraeg mewn cartrefi yn ein cymunedau.

Common Voice Cymraeg

Gyda dyfeisiadau ‘cynorthwywyr cartref’ fel Alexa, Siri ac OK Google yn dod fwy poblogaidd mewn cartrefi, a’r rheiny ddim yn deall Cymraeg, mae ‘na beryg cynyddol i gartrefi newid iaith yn raddol i’r Saesneg wrth ofyn cwestiynnau a derbyn atebion gan yr aelodau newydd yma i’n tai.

Bwriad Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr Prifysgol Bangor, Meddal.com a chwmni Mozilla yw casglu data rhydd er mwyn galluogi cwmniau mawrion fel Amazon, Google ac Apple i gyflwyno’r Gymraeg i’r dyfeisiadau yma. Yng ngeiriau Common Voice Cymraeg;

“Hwn yw un o’r cyfleoedd gorau sydd ganddon ni i osod sylfaen gref ar gyfer defnydd y Gymraeg yn nhechnoleg y dyfodol.”

Sut i gyfrannu?

Sian-Elin Williams o Fenter Gorllewin Sir Gâr yn rhoi ei llais i Common Voice Cymraeg

Sian-Elin Williams o Fenter Gorllewin Sir Gâr yn rhoi ei llais i Common Voice Cymraeg

Fel rhan o’r cyfarfodydd, aeth y swyddogion mewn i grwpiau bychan o 4 neu 5 er mwyn cwblhau’r ddwy elfen o’r prosiect sef 1) Siarad a 2) Gwrando.

Siarad:

Recordio’i hunain yn siarad mewn i’w ffonau clyfar, tabled neu gyfrifiadur yn darllen 5 pwt bychan o destun a’i lwytho.

Gwrando:

Gwrando ar glipiau sain ar hap gan eraill, a phenderfynnu os ydyn nhw’n ddilys a’i peidio.

Dywedodd y Swyddogion Maes:

“Cawsom gyflwyniad buddiol gan Rhoslyn Prys. Bydd yr adnodd yn help mawr i bob menter ac yn rhywbeth i’w hyrwyddo yn bendant.”

“Roedd yn gyflwyniad arbennig. Bydd sicr ffordd i ni addasu’r weithgaredd ar gyfer y grwpiau rydym yn gweithio â nhw.”

Am fwy o wybodaeth am y cynllun ac i gymryd rhan ewch i voice.mozilla.org/cy , lawrlwythwch y daflen yma, neu cysylltwch gyda’ch menter leol i weld os oes modd cymryd rhan mewn gweithgaredd yn lleol i chi neu i drefnu gweithgaredd debyg fel rhan o’ch grwp neu fudiad.