Mae Mentrau Iaith Cymru yn Falch o fod wedi bod yn rhedeg y prosiect hwn sydd yn ysgogi mentergarwch Cymry Cymraeg yn y maes hamdden a chwaraeon. Mae 4 llinyn i’r prosiect:
1. Annog pobl ifanc i gymhwyso yn ei meysydd hamdden o ddiddordeb er mwyn cael gwaith achlysurol yn lleol
2. Annog pobl sydd wedi eu cymhwyso i gynnal clybiau a sesiynau hamdden / chwaraeon / sefydlu busnesau hamdden yn Gymraeg yn lleol
3. Creu cronfa ddata fyw o siaradwyr Cymraeg cymwys i ddarparu sesiynau / cynnal clybiau Cymraeg at ddefnydd cyffredinol cyflogwyr yn y maes hamdden a chwaraeon
4. Ysgogi mwy o hyfforddiant i hyfforddwyr mewn meysydd hamdden a chwaraeon drwy gyfrwng y Gymraeg



