Cyfres flynyddol o deithiau tywys ar y cyd â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol gyda themâu gwahanol i siaradwyr Cymraeg yw Ar Droed. Mae’r teithiau’n bennaf i siaradwyr newydd gan wahodd siaradwyr profiadol i ymuno hefyd.
Am y 5edd flwyddyn bellach rydym wedi gallu cynnig y profiad o fynd ar daith dywys arbennig. Rydym yn falch iawn o lwyddiant ysgubol teithiau natur gyda Iolo Williams – trît go iawn i bawb oedd ar y teithiau. Braint oedd mynd ar daith dywys a sgwrsio gydag Ifor ap Glyn, Adam yn yr Ardd, Rhodri Morgan a Sioned Edwards. Rhwng 2021 a 2024 cafodd 561 o ddysgwyr brofiad arbennig yn mynd ar 22 o deithiau tywys o amgylch byd natur, adeiladau arwyddocaol, gerddi ac amgueddfeydd ar draws Cymru.
Cestyll a Chwaraeon yw’r themâu eleni.
Rhwng mis Medi 2025 a mis Mawrth 2026 bydd cyfle i ddysgwyr Cymraeg a siaradwyr profiadol ymweld â 3 castell a 3 stadiwm eiconig yng Nghymru. Bydd teithiau tywys o amgylch y cestyll a stadia, ac mae’r teithiau yn gorffen gyda phaned a sgwrs. Mae’r teithiau cerdded yn rhoi cyfleoedd unigryw i siaradwyr newydd a dysgwyr Cymraeg ddefnyddio’r iaith mewn awyrgylch hamddenol, cymdeithasol a chroesawgar. Bydd pob taith yn cael ei harwain gan dywysydd lleol, gyda chyfle i ddarganfod mannau arbennig ledled Cymru.
Bydd y gyfres newydd o Deithiau Ar Droed yn cychwyn ym mis Medi yn Stadiwm Swansea.com lle bydd Gabriella Jukes yn ymuno ar gyfer sesiwn holi ac ateb ac am gyfle i’r mynychwyr sgwrsio gyda hi. Yna, yn Hydref, bydd taith i fyny i Gastell Dolwyddelan gyda’r tywysydd Arfon Hughes, gan fwynhau lliwiau’r hydref o gwmpas y castell cyn gorffen gyda phaned yn y pentref. Wythnos yn ddiweddarach bydd cyfle i grwydro Castell Cyfartha gyda Phyl Griffiths, a hynny cyn mwynhau paned yng nghaffi’r castell. Yn ddiweddarach yn yr un mis, bydd Gwyn Derfel o Undeb Rygbi Cymru yn arwain taith unigryw tu ôl i’r llenni yn Stadiwm Principality, stadiwm enwocaf Cymru. Ym mis Chwefror, bydd y dysgwyr yn cael ymweld â Chastell Aberteifi ar ddwy daith gyda Hedd Ladd Lewis, gan fwynhau paned a cherddoriaeth ym mwyty’r castell, gyda’r opsiwn i aros dros nos i ymestyn y profiad. Yn y gwanwyn, bydd y gyfres yn cloi gyda thaith i’r Cae Ras yn Wrecsam, cartref clwb pêl-droed enwog Wrecsam AFC, gan roi blas ar stadiwm eiconig arall i’r mynychwyr. Cadwch eich llygaid ar agor am cyhoeddi’r dyddiad ar gyfer y daith ddiddorol yn y flwyddyn Newydd!
Am fwy o wybodaeth ac i gadw lle, cysylltwch ag ardroed@mentrauiaith.cymru






Dyma flas o’r teithiau sydd wedi bod.









