Ydych chi’n chwarae offeryn, clocsio neu ddawnsio gwerin?

Ydych chi’n 16 – 25 oed ac yn chwilio am swydd dros yr haf?

Mae ceisiadau i ymuno â ThwmpDaith 2024 yn awr AR AGOR!

Beth yw TwmpDaith?

Mae’r TwmpDaith yn swydd haf, gyda chyflog, yn teithio o amgylch Cymru mewn bws mini yn cynnal twmpathau dawns.

Pryd a Ble?

Cyfnod y swydd yw Gorffennaf 8fed – Awst 17eg. Bydd hyn yn cynnwys wythnos o hyfforddiant (8fed-14eg o Orffennaf) yn y Canolbarth.

Bydd y criw yn treulio’r haf yn chwarae cerddoriaeth, cynnal twmpathau a gweithdai, yn magu profiadau chwarae a galw byw. Bydd amrywiaeth o leoliadau, o neuaddau pentref i wyliau, gan gynnwys Sesiwn Fawr Dolgellau, Tafwyl, yr Eisteddfod Genedlaethol a Gŵyl Geltaidd Lorient yn Llydaw.

Pwy?

I fod yn rhan o TwmpDaith2024, disgwylir ichi unai chwarae offeryn (mewn unrhyw arddull), dawnsio, canu neu glocsio i safon dda.  Bydd yn fanteisiol os gallwch wneud mwy nag un a bydd dealltwriaeth o gerddoriaeth draddodiadol Cymreig yn gymorth ond ddim yn hanfodol.  Rhaid bod yn hyblyg ac yn awyddus i ddysgu a “chymryd rhan”. Disgwylir bod gennych rhywfaint o brofiad perfformio.

Byddwch yn derbyn hyfforddiant er mwyn gallu galw dawnsfeydd twmpath, cynnal gweithdai clocsio syml, cydweithio fel tîm i gynnal noson, a rheoli system sain.

Bydd TwmpDaith yn ceisio sicrhau cydbwysedd o gerddorion. Croesewir ceisiadau gan chwaraewyr ffidil, acordion, telyn, chwiban, gitâr, offer taro, allweddellau, trombôn, soddgrwth, gitâr bas, bas dwbl, drymiau, ffliwt, offerynnau pres/llinynau, pibgydau, pibgyrn …….ayyb!

Ffi:  TwmpDaith FYDD YN EICH TALU CHI!

Eleni, rydym yn cynnig lle i WYTH o bobl rhwng 16 a 25 oed (ish). Byddwch yn derbyn tâl o £1000 a darperir llety. Disgwylir i chi fod ar gael ar gyfer y cyfnod teithio cyfan a’r wythnos hyfforddiant. Bydd dyddiau i ffwrdd bob wythnos i ddychwelyd adre. Ar y daith, bydd staff TwmpDaith ar gael i’ch cefnogi, eich gyrru o le i le a’ch mentora.  

Y Broses Ymgeisio:

Dyddiad Cau Ceisiadau: 1af o Ebrill

Ffurflen gais (https://forms.gle/kB2yr6Pe6N4HBR1i8) + fideo byr (dim hwy na 5 munud) yn cyflwyno eich hunain ac yn perfformio darn byr o’ch dewis, boed hynny yn ddarn offerynnol, canu neu ddawnsio (neu’r tri!). Gellir anfon y fideo dros ebost neu Whatsapp i 07969062263.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â ThwmpDaith 2024 neu’r broses ymgeisio, neu os am sgwrs ynglŷn ag unrhyw gefnogaeth ychwanegol y byddai angen arnoch yn ystod y broses ymgeisio neu yn ystod y TwmpDaith, cysylltwch â rhian@mentermaldwyn.cymru.  

Mae TwmpDaith yn rhan o brosiect WYTH, sef prosiect i hyrwyddo dawnsio traddodiadol Cymreig, dan nawdd cynllun Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae partneriaid yn cynnwys Menter Iaith Maldwyn, yr Eisteddfod Genedlaethol, Cwlwm Celtaidd, Urdd Gobaith Cymru a nifer o artistiaid llawrydd.