Math o gytundeb: Dros Dro (cyflenwi cyfnod mabwysiadu)
Cyflogwr: Menter Bro Ogwr
Sir: Pen-y-Bont ar Ogwr
Cyflog: hyd at £24,290.33 y flwyddyn pro rata (yn ddibynnol ar brofiad a sgiliau)
Oriau: hyd at 20 awr yr wythnos
DISGRIFIAD
Gwaith Swyddog Gwasanaethau plant a theuluoedd Menter Bro Ogwr yw datblygu a chryfhau cynnig a gwasanaethau’r Fenter i gymunedau Pen-y-bont ar Ogwr a chodi ymwybyddiaeth o’n gwaith o fewn cymunedau Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Prif ddyletswyddau’r rôl yw llunio, cydlynu a gweithredu rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau amrywiol a chynhwysfawr i blant a theuluoedd ar hyd a lled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr er mwyn iddynt gael mwy o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg.
Yn ogystal byddwch yn codi proffil yr iaith yn gyffredinol a’i defnydd ar draws y Sir mewn nifer o feysydd. Bydd yr unigolyn delfrydol yn gallu datblygu syniadau newydd ac arloesol i barhau i adeiladu a datblygu darpariaeth a rhaglenni presennol y Fenter. Chwiliwn am berson egnïol a brwdfrydig sydd yn gallu gweithio’n annibynnol ac yn rhan o dîm yn effeithiol. Byddwch yn gallu cysylltu’n hyderus gydag ystod o bobl ac yn awyddus ac yn barod i ddysgu pethau newydd ar hyd y ffordd hefyd.
I wneud cais, e-bostiwch gopi diweddar o’ch CV ynghyd a llythyr yn egluro pam hoffech chi gael y swydd, beth allech chi ddod i’r swydd a pham y dylem ni eich cyflogi.
Am ragor o fanylion, ffoniwch Amanda Evans ar 07774032624 neu anfonwch e-bost at menter@broogwr.org
Mae Menter Bro Ogwr yn gyflogwr Cyfle Cyfartal ac yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned.