Cynhelir dathliadau Dydd Gŵyl Dewi blynyddol Cyngor Abertawe, Gŵyl Croeso Abertawe, dros bedwar diwrnod o 29 Chwefror a bydd yn cynnwys cerddoriaeth fyw, arddangosiadau coginio, adloniant i’r teulu a gorymdaith stryd.

Mae’r lleoliadau amrywiol yn cynnwys canol y ddinas – lle bydd hwyl am ddim i bawb – a Neuadd Brangwyn ac Arena Abertawe, lle bydd digwyddiadau cerddorol cofiadwy mewn lleoliadau dan do o’r safon uchaf.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe: “Mae gennym raglen wych o ddigwyddiadau eleni a bydd yn dechrau gyda digwyddiad Croeso, a fydd yn llawn lliw a chanu – ac yn cynnwys cyfres o ddathliadau cyffrous ar draws y ddinas ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi. Trwy gydol 2024, bydd digwyddiadau lleol yn amrywio o adloniant am ddim a chost isel i deuluoedd i gerddoriaeth gan artistiaid enwog o safon ym Mharc Singleton ac athletwyr o’r radd flaenaf.”

Mae’r gerddoriaeth fyw fel rhan o’r ŵyl wedi cael ei rhaglennu mewn partneriaeth â’r Swansea Music Hub a Menter Iaith Abertawe. Bydd y rhaglen yn cynnwys perfformiadau gan lu o’r artistiaid mwyaf cyffrous o Abertawe a thu hwnt ar lwyfan Maes Dewi Sant yn ystod y dydd, yn ogystal ag amrywiaeth o gigs mynediad am ddim ledled y ddinas fel rhan o’r rhaglen Croeso x Nightworks.

Mae’r digwyddiad Croeso x Nightworks yn dechrau gyda noson lansio mynediad am ddim yn Arena Abertawe i ddathlu’r gystadleuaeth Cân i Gymru S4C yn yr arena’r noson ganlynol. Bydd y digwyddiad lansio hwn yn cynnwys setiau gan gyn-artistiaid Cân i Gymru gan gynnwys Mali Hâf a Morgan Elwy, a bydd yn gyfle i ddysgu mwy am bopeth sy’n digwydd dros y penwythnos. Ychydig iawn o docynnau am ddim sydd ar ôl ar gyfer y sioe fyw ar y nos Wener, ac maen nhw ar gael trwy wefan yr arena.

Ar ddydd Sadwrn yr 2il o Fawrth bydd noson o gerddoriaeth werin Cymraeg gyda Brigyn a mwy yn lleoliad Tŷ Tawe, tra bydd yr Elysium ar y Stryd Fawr yn gweld sêr y sîn rap Gymreig – Sage Todz, Luke RV, a’u ffrindiau yn cadw’r parti i fynd tan yn hwyr.

Dywedodd Tomos Jones, Prif Swyddog Menter Iaith Abertawe: “Rydym wrth ein boddau i gydweithio gyda Chyngor Abertawe i raglennu cerddoriaeth y digwyddiad Gŵyl Croeso eto eleni. Dyma’r lein-yp gorau eto, gyda rhywbeth at ddant pawb dros gyfnod y penwythnos. Mae’r ffaith bod pob digwyddiad yn rhad ac am ddim yn wych, a gobeithiwn y bydd yr ŵyl yn cyflwyno artistiaid sy’n defnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith i gynulleidfaoedd newydd ar draws y ddinas.

Bydd y Babell Cwtsh ym Maes Dewi Sant hefyd yn cynnig cyfle i’r rhai sy’n mynychu i ddysgu mwy am gyfleoedd i fwynhau’r iaith Gymraeg yn ardal Abertawe. Yn ogystal â chyfle i ddysgu am ddigwyddiadau iaith Gymraeg eraill ar y gorwel, bydd cyfleoedd hefyd i bori trwy ddetholiad o nwyddau Siop Tŷ Tawe a dysgu mwy am y cyrsiau sydd ar gael trwy Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe. Bydd cyfle i gwrdd â Mr Urdd a Magi Ann, a bydd Cymraeg i Blant yn darparu sesiynau Stori a Chân yn ogystal â gwybodaeth bellach ynglŷn â chyfleoedd i deuluoedd fwynhau’r iaith Gymraeg gyda’i gilydd.

Cyflwynir gweithgareddau canol y ddinas digwyddiad Croeso gan y cyngor mewn cydweithrediad â First Cymru Buses Ltd a gyda chefnogaeth Bwyd a Diod Cymru a Nathaniel Cars. Mae mwy o wybodaeth ar gael trwy wefan Croeso Bae Abertawe.