I ddathlu Diwrnod Gwlypdiroedd Rhyngwladol mis yma, cawsom gyfle i fwrw golwg ar fywyd gwyllt sy’n brin ac anghyffredin iawn… y corryn rafft y ffen!  

Oeddech chi’n gwybod mai Camlas y Tennant ym Mhant-y-Sais, Pentrecaseg yw unig gartref Cymraeg corryn rafft y ffen? Rhywogaeth arbennig o gorryn sydd i’w weld yn unig mewn ychydig o lefydd ym Mhrydain. Rydym yn ffodus iawn o gael un o’r mannau arbennig yna ar ein stepen drws. Fel rhan o brosiect Gwreiddiau Gwyllt, rydym yn edrych ar yr holl ryfeddodau sydd gan fyd natur i gynnig. Y ffordd orau o weld y creaduriaid hyn yw ymweld â’r gamlas yn ystod yr haf a chwilio am gorynnod ymysg llystyfiant ifanc. 

Mae corryn rafft y ffen yn ysglyfaethwr cudd-ymosodol. Dydy o ddim yn adeiladu gwe dal na chwaith yn erlid ei ysglyfaeth nes ei fod o fewn cyrraedd hawdd. Pan fo gan gorryn osgo hela mae’n eistedd gyda’i goesau cefn ar lystyfiant a’i goesau blaen yn gorffwyso ar arwyneb y dŵr.  

Mae corryn rafft y ffen yn rhywogaeth sy’n byw mewn gwlypdiroedd iseldir. Mae cors iseldir yn fath arbennig o wlypdir sy’n cael ei ddŵr i gyd o law, eira a niwl; ac yn sicr mae gennym ddigon o law yng Nghymru i’r corynod yma fedru bodoli yn y corsydd! 

Dyma rhai ffeithiau am gorryn rafft y ffen: 

  • Corryn mwyaf y DU, ac un o’r rhai prinnaf.  
  • Gall tyfu i 23mm a phontio hyd at 7cm gan gynnwys eu coesau, ac mae ganddo linell wen/hufen/felen ar hyd un ochr ei gorff. 
  • Mae’n ffafrio ardaloedd ar gyrion y dŵr o amgylch phlanhigion anystwyth, ifanc. 
  • Enw gwyddonol: dolomedes plantarius. 
  • Yn un o ddwy rywogaeth o’r ‘teulu’ dolomedus sy’n byw yn Ewrop. 
  • Gall ei oes bywyd amrywio o un i dair blwyddyn.  
  • Mae’n ymddangos fel oedolyn yn y Gwanwyn (fel arfer yn hwyr yn Ebrill neu Mai) ac yn dod o hyd i gymar bron yn syth. 
  • Gellid gweld y fenyw gyda sachau wy ym mis Mehefin ac wedyn mae’r gweoedd meithrin nodweddiadol i’w gweld o ddiwedd Mehefin ymlaen.  
  • Gellid gweld y rhan fwyaf o weoedd meithrin ym mis Gorffennaf ac Awst, a fedrith menywod oroesi tan yr Hydref. 

Mae’r rhywogaeth nawr i’w weld mewn 7 safle ym Mhrydain. Mae yna dair poblogaeth naturiol i’w gweld yn Ffen Pant-y-Sais a Chors Crymlyn ger sir Castell-nedd Port Talbot, Lefelau Pevensey yn Nwyrain Sussex, Ffen Redgrave a Lophan yn Suffolk.