O ddechrau’r flwyddyn ymlaen, rydym yn eu gweld yn codi eu pennau ar ochrau lonydd ac mewn parciau: blodau cennin Pedr. Y dail cul yn gwthio drwy’r gwair yn fwndel o fysedd gwyrddlwyd, a rhai wythnosau’n ddiweddarach, y blagur yn tewychu ac yna’n agor y blodau melyn rydym i gyd yn mor hoff ohonynt. Dyma arwydd bod y gaeaf bron ar ben – blodau Cymru’n wir!

Ceir mwy o amrywiaethau o’r blodyn hwn na fedrwn eu cyfrif. Mae garddwyr wedi eu datblygu i flodeuo’n gynt neu i bara’n hirach, i fod yn dalach neu gyda mwy o grychau (frills). Ond mae gennym gennin Pedr naturiol brodorol hefyd, er bod y blodau yma llawer prinnach erbyn hyn, a’r rheiny’n tyfu mewn caeau llaith neu goedwigoedd hynafol. Edrychwch amdanyn nhw: mi welwch nhw’n tyfu mewn clympiau ac yn fyrrach na rhai’ gardd gyda phetalau goleuach na’r trwmped yng nghalon y blodyn.

Mae enwau cyffredin fel lent lily yn Saesneg neu Osterglocken yn Almaeneg (clychau’r Pasg) yn amlygu’r cysylltiad â’r gwanwyn ac adeg y Pasg. Yng Nghymru, mae’r genhinen a’r genhinen Bedr ill dau yn symbolau Cymreig sy’n cael eu harddangos i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi: ‘Gwisg genhinen yn dy gap, a gwisg hi yn dy galon’. Tra mae’r genhinen Bedr yn weddol newydd fel arwyddlun genedlaethol, mae symbol y genhinen draddodiadol yn mynd yn ôl ganrifoedd i’r amser pan wisgodd catrawd o Gymry y llysieuyn yn eu capiau i nabod eu gilydd mewn brwydr yn erbyn y Sacsoniaid!

Defnyddir cemegau o’r genhinen Bedr i drin afiechydon megis Clefyd Alzheimers neu diwmorau, ond peidiwch â’u bwyta nhw! Maent yn wenwynig.

Ar y llethrau uwchben Dyffryn Conwy, mae coedwig fynydd lle daw cerddwr ar draws carpedi o’n blodau cennin Pedr brodorol. Bydd prosiect Gwreiddiau Gwyllt Conwy yn trefnu taith gerdded 13 Mawrth o Henryd am hen Eglwys Llangelynnin ac ymlaen i weld y cennin Pedr. Dowch efo ni os medrwch chi! Byddwn yn cyfarfod am 10:00, ac yn ôl erbyn 14:30. Cofrestrwch drwy gysylltu efo judith@mentrauiaith.cymru. Os ydych chi’n hoffi blodau, mae llyfr Blodau Gwyllt yn werth ei gael. Gallwch hefyd ymweld â Llên Natur sy’n rhoi enwau rhywogaethau i chi yn Gymraeg a Saesneg. Ac os ydych chi’n ‘nabod eich blodau’n dda, beth am gyfrannu at ap Plantnet https://plantnet.org/en/app/ yn Gymraeg i dyfu eu cronfa o enwau Cymraeg? Mae prosiect Gwreiddiau Gwyllt a ariennir gan Gronfa’r Loteri Treftadaeth wrthi’n casglu adnoddau gyda thermau natur a fydd ar gael i’r cyhoedd mewn un man ar ddiwedd y prosiect.