Canlyniadau Cyfrifiad 2021 ar y Gymraeg

Wrth ymateb i ffigurau Cyfrifiad 2021 ar yr iaith Gymraeg, mae Mentrau Iaith Cymru yn galw ar y Llywodraeth i ganolbwyntio o’r newydd ar sicrhau cynnydd yn y defnydd o’r iaith ar lawr gwlad.

Daw hyn ar ôl i’r Cyfrifiad ddangos niferoedd y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru yn gostwng i 538,000 a 17.8 y cant o’r boblogaeth, a lleihad o dros 20,000 yn nifer y plant 3-15 oed a oedd yn gallu’r iaith.

“Mae ffigurau’r Cyfrifiad yn amlwg yn siom, ac maen nhw hefyd yn tanlinellu pa mor amrywiol a chymhleth ydi’r heriau sy’n wynebu gwahanol rannau o Gymru,” meddai Dewi Snelson, Cadeirydd Mentrau Iaith Cymru.

“Dyna pam fod gweithredu ymarferol ar lawr gwlad yn gwbl allweddol wrth geisio atebion penodol, ynghyd â dealltwriaeth glir o anghenion gwahanol gymunedau.

“Yn ogystal â dyheadau uchelgeisiol am yr hirdymor, mae angen hefyd gosod targedau ymarferol ar lefel leol, gan ei bod yn glir nad yw trin Cymru fel uned ieithyddol unffurf yn mynd i weithio.

“Yn ogystal ac ehangu’r cyfleoedd ac anogaeth i ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol, mae angen cydweithio â’n gilydd i geisio atebion economaidd i’r cymunedau hynny sydd dan fygythiad cynyddol.

“Fel sefydliadau sydd wedi eu gwreiddio ym mhob rhan o Gymru mae gan y mentrau iaith ran bwysig i’w chwarae yn y gwaith. Rydym eisoes wedi datblygu arbenigedd unigryw yn y maes ac mae’n hanfodol ein bod yn cael adnoddau a chyllid digonol er mwyn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.”

Pwysleisiodd na fydd canlyniadau’r Cyfrifiad yn lleihau dim ar frwdfrydedd na phenderfyniad y mentrau i sicrhau dyfodol llewyrchus i’r Gymraeg.

“Yn y pen draw, mae faint o bobl a fydd yn defnyddio’r iaith o ddydd i ddydd yr un mor bwysig ar nifer a fydd yn gallu ei siarad,” meddai Dewi.

“Yn ogystal â chynyddu gweithgarwch cymunedol a chyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob rhan o Gymru, mae hyn yn gofyn hefyd am weithredu penodol i atal dirywiad pellach yn y cadarnleoedd sydd ar ôl. “Fel mentrau rydym yn ymateb yn gadarnhaol am yr her, ac edrychwn ymlaen at gydweithio â Llywodraeth Cymru ac eraill tuag at y nod.”

Mae ystadegau’r cyfrifiad ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Y Gymraeg yng Nghymru (Cyfrifiad 2021) | LLYW.CYMRU

Roedd sesiwn i gyhoeddi a thrafod yr ystadegau gan Lywodraeth Cymru ar y 6ed o Ragfyr. Bydd y cyflwyniad ar wefan Llywodraeth Cymru a’r fideo o’r sesiwn ar sianel YouTube Llywodraeth Cymru.