Mae’r gyfres lwyddiannus o deithiau tywys ‘Ar Droed’ yn parhau – gyda Iolo Williams eto eleni 

Am y drydedd flwyddyn yn olynol mae’r Mentrau Iaith ar y cyd â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cynnal teithiau tywys ‘Ar Droed’ o dan themâu gwahanol. Mentro allan a dysgu am fyd natur gyda’r naturiaethwr poblogaidd Iolo Williams fydd hi eto eleni.

Bydd Iolo Williams yn arwain 5 taith mewn 5 lleoliad ar draws Cymru rhwng mis Hydref 2023 a mis Gorffennaf 2024. Mae’r teithiau ar gyfer siaradwyr Cymraeg – hen a newydd. Ac mae croeso arbennig i aelodau’r cynllun SIARAD gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg.

Mae’r teithiau eleni yn digwydd trwy gydweithio â phrosiect arall y Mentrau Iaith, sef Gwreiddiau Gwyllt sydd newydd ddechrau ac yn mynd i hyrwyddo’r enwau cynhenid Cymraeg sydd ym myd natur.

Meddai Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:

“Mae creu cyfleoedd i ddysgwyr fwynhau defnyddio eu Cymraeg yn rhan bwysig o waith y Ganolfan Genedlaethol a ’dyn ni’n falch dros ben bod teithiau ‘Ar Droed’ yn cael eu cynnal eto eleni. Mae’r teithiau yn gyfle i ddysgwyr Cymraeg sgwrsio gyda dysgwyr a siaradwyr rhugl yn eu hardaloedd nhw a dysgu am y cyfoeth o enwau hyfryd Cymraeg ym myd natur gyda neb llai na Iolo Williams.”

Meddai Iolo, “Rwy’n edrych ymlaen at arwain y teithiau cerdded yma i ddangos rhyfeddodau byd natur mewn tymhorau gwahanol yn ystod y flwyddyn.

“Mae cymaint o enwau hardd ar blanhigion, blodau, adar a choed yn y Gymraeg a bydd hwn yn gyfle i mi ddysgu rhai o’r rhain i’r dysgwyr – geiriau efallai na fyddant yn dod ar eu traws yn eu dosbarthiadau Cymraeg.”

Meddai Daniela Schlick, Cydlynydd Prosiectau gyda Mentrau Iaith Cymru:

“Mae’r Mentrau Iaith ar draws Cymru yn cynnal gweithgareddau i roi cyfle i bobl fwynhau siarad Cymraeg yn eu hardaloedd nhw. Felly, rydym yn falch iawn o allu cynnal y teithiau tywys eto o dan faner ‘Ar Droed’. Mae sgyrsiau yn llifo’n llawer gwell wrth gymdeithasu a mynd am dro. Mwynhau’r gweithgaredd sy’n bwysig a gwneud hynny yn y Gymraeg.”

“Rydym yn gwahodd pawb sy’n siarad Cymraeg – boed yn ddysgwyr neu’n siaradwyr rhugl. Mae’r teithiau hyn yn gallu pontio rhwng cymunedau hefyd, rhywbeth sydd wrth wraidd gwaith y Mentrau Iaith.” Ychwanega Daniela.

Y teithiau eleni yw:

16/10/2023 Tŷ Mawr Wybrnant, Sir Conwy

17/10/2023 Rhaeadr Melincwrt, Castell Nedd Port Talbot

15/03/2024 Parc Bywyd Gwyllt Cilgerran

19/03/2024 Gwlypdiroedd Casnewydd

02/07/2024 Ynsy Lawd/Tŵr Elin, Ynys Môn

Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer y teithiau rhad ac am ddim hyn, e-bostiwch ardroed@mentrauiaith.cymru