Ymuna â ni i ddathlu Dydd Miwsig Cymru ar y 4ydd o Chwefror eleni!

Mae’n ddiwrnod i ddathlu cerddoriaeth Gymraeg ac i rannu atgofion am ein hoff gigs Cymraeg. Beth yw dy hoff atgof o gig fyw?

Cadwa lygaid ar agor am y digwyddiadau llu sy’n cael eu trefnu gan y Mentrau Iaith gwahanol. Bydd sesiynau yn arbennig i ddathlu Dydd Miwsig Cymru ar Radio Cymru a’r cyfryngau eraill.