Fel cenedl ddwyieithog mae’n hanfodol fod yr iaith Gymraeg yn cael ei chlywed ar draws y wlad. Mae cannoedd o bethau bach hawdd – ‘Pethau Bychain’ – y gall pawb eu gwneud pob dydd i gynyddu’r defnydd o’r iaith Gymraeg, pa bynnag lefel o Gymraeg (dysgwyr neu rugl) sydd ganddynt.

Mae llawer o gyfleoedd i ddefnyddio mwy o’r iaith Gymraeg  bob dydd. Wrth rannu ac atgoffa pobl o’r Pethau Bychain y gellir eu gwneud y gobaith yw  ysbrydoli eraill i wneud yr un peth. Trwy gefnogi ein gilydd gallwn gynyddu’r defnydd o Gymraeg yn y genedl ddwyieithog hon.

I’ch ysbrydoli chi, dyma rai awgrymiadau o’r #PethauBychain hynny y gallwch chi annog eich cynulleidfaoedd i’w gwneud.

Byw

  • Ysgrifenna restr siopa bwyd yn y Gymraeg bob tro
  • Defnyddia’r Gymraeg wrth dynnu arian allan o’r banc
  • Rho enw Cymraeg i dy anifail anwes

Dysgu

  • Beth am ganu cân Cymraeg gyda dy blentyn?
  • Dechrau dysgu gyrru? Beth am roi ‘D’ am ddysgwr ar y car?
  • Gwisga fathodyn brand Cymraeg i ddangos i gwsmeriaid bod gwasanaeth dwyieithog ar gael

Mwynhau

  • Cer i un o’r nifer o wyliau Cymraeg dros yr haf
  • Beth am ddewis gwylio’r rygbi ar y teledu yn y Gymraeg gyda ffrindiau?
  • Angen pethau newydd i’r tŷ? Beth am brynu nwyddau Cymraeg- mae digon o ddewis.

Pethau Bychain