Dathlu Calan Gaeaf

Bydd llawer o bobl yng Nghymru yn dathlu Calan Gaea’ eleni ond faint ohonom, tybed, sydd yn gwybod am rai o hen arferion ni’r Cymry sy’n ymwneud â’r adeg arbennig hwn.

Wyddet ti mai hen wledd Geltaidd i ddathlu diwedd yr haf a diwedd ar yr hen flwyddyn oedd Calan Gaeaf (neu Samhain)?

Byddai’r flwyddyn newydd Geltaidd yn dechrau ym mis Tachwedd, gyda dyfodiad y gaeaf, y tymor tywyllaf ac oeraf. Yr oedd tymor y goleuni yn dechrau ar Galan Mai sydd ar y 1af o Fai heddiw.

Credai’r Celtiaid bod Calan Gaeaf yn ddydd pan yr oedd y drws rhwng eu byd hwy a’r byd nesaf yn agor, ac felly yr oedd yn ddydd i dalu teyrnged i’r meirw, yn ogystal ag ofni fod ysbrydion yn mynd i ymweld â nhw.

Roedd yn achlysur difrifol a gwir arswydus a byddent yn gwisgo masgiau i ddychryn yr ysbrydion drwg, ac nid i gael hwyl a sbri fel heddiw. Fel nifer fawr o wyliau’r Celtiaid, cafodd Calan Gaeaf ei fabwysiadu gan yr eglwys, a’i ail-lunio fel Gŵyl yr Holl Saint ar Dachwedd 1af a Gŵyl yr Holl Eneidiau ar Dachwedd 2il, sy’n parhau’r hen draddodiad o gofio’r meirw.

Eisiau gwybod mwy am rai o hen arferion y Cymry sy’n ymwneud â Chalan Gaeaf? Bwra olwg ar y posteri/taflenni hyn a gynhyrchwyd gan Fentrau Iaith y Gogledd Ddwyrain.

Baner Balchder - Calan Gaeaf Spread V1 (2)-page-002

Mae modd lawr-lwytho a rhannu’r posteri/taflenni hyn ar-lein neu eu hargraffu i’w dosbarthu yn eich cymunedau.

Yn ogystal, mae nifer o fentrau iaith ledled Cymru yn trefnu gweithgareddau i ddathlu’r ŵyl, cadwa lygad ar dudalen Facebook neu Twitter dy fenter Iaith leol.

Gelli hefyd ymweld â Digwyddiadur Gwefan Cymraeg