Swyddog Gweithgareddau Cymunedol
Rydym yn chwilio am berson brwd ac egnïol i weithio gyda ni drwy gynnal ystod eang o weithgareddau a phrosiectau hwyliog er mwyn cynyddu defnydd o’r Gymraeg o fewn cymunedau siroedd y Fflint a Wrecsam.
Prif Gyfrifoldebau:-
- Gweithio gyda staff eraill Menter Iaith Fflint a Wrecsam i weithredu Rhaglen Waith y Fenter trwy drefnu gweithgareddau blaengar a hwyliog sydd yn defnyddio’r Gymraeg fel cyfrwng cyfathrebu naturiol;
- Datblygu prosiectau penodol a flaenoriaethwyd yng Nghynllun Corfforaethol Menter Iaith Fflint a Wrecsam;
- Paratoi ceisiadau am nawdd ar gyfer datblygu a chyllido prosiectau a gweithgareddau;
- Cynorthwyo’r Swyddog Busnes i reoli gwariant cyllideb prosiectau a gweithgareddau’r Fenter;
- Cydweithio â phartneriaid y Fforwm Sirol i gefnogi unrhyw weithgaredd sy’n bodoli eisoes trwy gyfrwng y Gymraeg a llenwi bylchau yn y ddarpariaeth bresennol;
- Cynorthwyo i sefydlu a chynnal Pwyllgorau Ardal mewn ardaloedd ieithyddol penodol;
- Cynorthwyo i greu a pharatoi deunyddiau marchnata a datblygu ymgyrchoedd marchnata penodol fel bo’r angen;
- Cynorthwyo i weithredu Cynllun Marchnata’r Fenter a chodi ei phroffil yn y wasg leol a chenedlaethol;
- Mynychu cyfarfodydd ar ran y Fenter pan fo angen.
Telerau’r Swydd
Cyflog: £19,680 + cyfraniad pensiwn cyfatebol hyd at 6%.
Costau Teithio: Telir costau teithio o 45c y filltir.
Oriau Gwaith: 37 awr yr wythnos, ond mae’r Fenter yn gweithredu polisi gweithio hybrid ynghyd â phatrymau gwaith hyblyg. Bydd disgwyl i’r sawl a benodir weithio oriau anghymdeithasol yn unol â galwadau gwaith o bryd i’w gilydd. Croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio’n llawn amser, rhan-amser neu rannu’r swydd.
Gwyliau: 24 diwrnod y flwyddyn i ddechrau ond yn cynyddu ar raddfa’n seiliedig ar hyd gwasanaeth (yn ogystal â gwyliau banc).
Hyd y Contract: Swydd am gyfnod penodol o flwyddyn gyda’r bwriad o barhad yn ddibynnol ar gyllid digonol ac yn amodol ar adolygiad perfformiad boddhaol ar y cyfnod prawf.
Strwythur Rheoli: Byddwch yn gweithio o dan gyfarwyddyd Prif Swyddog Menter Iaith Fflint a Wrecsam. Byddwch yn atebol i Fwrdd Cyfarwyddwyr Menter Iaith Fflint a Wrecsam.
Rhybudd Terfynu Swydd: 1 mis
Lleoliad: Lleolir swyddfeydd y Fenter yng Nghorlan, Uned 3, Parc Busnes yr Wyddgrug, Ffordd Wrecsam, Yr Wyddgrug, CH7 1XP .
Newidiadau i’r Disgrifiad Swydd:
Gall y disgrifiad swydd hwn newid neu gael ei ddiwygio ar unrhyw amser ar ôl ymgynghori â deiliad y swydd.
Hyblygrwydd:
Tynnir eich sylw at y ffaith fod dyletswyddau a chyfrifoldebau penodol mewn rhai achosion yn anodd eu dadansoddi yn fanwl a gallent newid o dro i dro heb newid cymeriad cyffredinol y dyletswyddau na lefel y cyfrifoldeb. Yn ychwanegol, mae’n ofynnol i bob aelod o’r staff dderbyn elfennau o hyblygrwydd yn eu dyletswyddau a’u cyfrifoldebau, a phan fo angen, cyfnewid er mwyn cyfarfod anghenion a gofynion y gwasanaeth sy’n newid yn barhaus. Bydd angen o’r fath yn galluogi i arbenigedd penodol y deilydd dyfu a datblygu er lles y cyflogwr a’r gweithiwr.
Adolygiad:
Cyhoeddwyd y disgrifiad swydd yma ym mis Mehefin 2022 ac fe’i adolygir yn gyson fel rhan o ddatblygiad yr unigolyn, ynghyd ag adolygiad perfformiad.
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Gill Stephen (Prif Swyddog)
gill@menterfflintwrecsam.cymru 01352 744040
neu ewch i https://www.facebook.com/menteriaithffaw am fwy o wybodaeth.