Mae Menter Iaith Brycheiniog a Maesyfed yn chwilio am Swyddog Datblygu hyderus ac egnïol i ymuno â’r tîm i ddatblygu prosiectau teuluoedd, plant a pobl ifanc a chymunedol.

Mae’r gallu i ddefnyddio’r Gymraeg yn gymhwyster hanfodol ar gyfer y swydd hon

Am y rôl:

Y mae Menter Brycheiniog a Maesyfed yn wasanaeth sy’n bodoli i hybu’r defnydd o’r Gymraeg ac sydd a’r nod o gyfrannu at gynnal y defnydd o’r Gymraeg yn gymunedol, cefnogi rhwydweithiau cymdeithasol y Gymraeg a chynyddu statws y Gymraeg ym mhob sector.

Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am ddatblygu a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn ardal Brycheiniog a Maesyfed. Bydd yn gyfrifol am gynllunio, cynnal a gwerthuso gweithgareddau amrywiol ar gyfer plant, pobl ifanc, teuluoedd a chymunedau a gweithio mewn partneriaeth gyda chyrff mewnol ac allanol.

Amdanoch chi:

Mae Menter Iaith Brycheiniog a Maesyfed yn chwilio am Swyddog Datblygu hyderus ac egnïol i ymuno â’r tîm i ddatblygu prosiectau teuluoedd, plant a pobl ifanc a chymunedol.

Eich dyletswyddau:

  1. Arwain rhaglen waith ieuenctid Menter Brycheiniog a Maesyfed er mwyn cynyddu’r cyfleoedd iaith Gymraeg i bobl ifanc yn Ne Powys. Yn gyfrifol am gynllunio a datblygu’r rhaglen hyd at flwyddyn o flaen llaw er mwyn cyrraedd y nifer gorau posib. Trefnu rhaglen waith wythnosol a misol eu hun.
  2. Codi proffil yr Iaith Gymraeg yn ne Powys a hybu’r defnydd o’r Gymraeg ar draws meysydd gwaith Plant a Phobl Ifanc, Teuluoedd a Chymunedau drwy ystyried gwaith ymchwil sydd eisoes wedi’i wneud yn y maes ac ymchwilio ymhellach i’r anghenion yn ôl gweithgareddau, lleoliadau, deunyddiau, a phlant ail-iaith. Ymgysylltu a chadw cyswllt ag ysgolion a gosodiadau gwaith ieuenctid er mwyn trefnu a chynnall sesiynau rheolaidd.
  3. Cynllunio a darparu gweithgareddau amrywiol o fewn y sir gan sicrhau dosraniad teg o ran math o weithgaredd, oed y defnyddiwr, lleoliadau amrywiol a daearyddiaeth y sir, a marchnata’r gweithgareddau yma mewn modd addas.
  4. Rheoli cyllid Plant a Phobl Ifanc er mwyn sicrhau darpariaeth deg a gwerth arian ar draw De Powys. Chwilio a cheisio cyllid ychwanegol lle’n bosib i ehangu potensial y rhaglen waith ieuenctid.
  5. Cydlynu, hyrwyddo a datblygu gwasanaethau Cymraeg i blant, ieuenctid ac oedolion mewn cyd-destun mwy eang mewn cydweithrediad â mudiadau eraill.
  6. Casglu tystiolaeth am weithgareddau a pharatoi adroddiadau a phapurau yn ôl y gofyn gan gynnwys adroddiadau cynnydd ar gyfer Cyngor Sir Powys a Llywodraeth Cymru o dan bennawd ‘Plant a Phobl Ifanc’.
  7. Disgwylir i’r swyddog fod yn gyfrifol am sicrhau eu datblygiad personol parhaus drwy weithgareddau datblygu staff a gweithgareddau hyfforddiant penodol.

Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu â:

Tudur Rees

Ebost: Tudur.rees@powys.gov.uk

Ffôn: 01597 826025

I gael mwy o wybodaeth ac i geisio am y swydd, cerwch i: Swyddog Datblygu Menter Brycheiniog a Maesyfed – Powys County Council