Mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam yn chwilio am berson brwd ac egnïol i weithio gyda ni o fewn cymunedau siroedd y Fflint a Wrecsam. Mae angen medru siarad Cymraeg ar gyfer y rôl ond croesawir ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg llai hyderus neu ddysgwyr lefel uwch.
Cyflog: £20,860 – £22,112 (neu pro rata) + cyfraniad pensiwn cyfatebol hyd at 6%
Oriau: 37 awr yr wythnos (ond rydym yn hapus i ystyried ceisiadau gan bobl sydd am weithio llai o oriau neu rannu’r swydd). Rydym yn gweithredu polisi gweithio hybrid ynghyd â phatrymau gwaith hyblyg.
Gweler https://menterfflintwrecsam.cymru/swyddog-datblygu-cymunedol/ am fwy o fanylion.
Dyddiad Cau: Hanner dydd, Dydd Llun 12fed Mehefin 2023