Mae Menter Iaith Rhondda Cynon Taf yn chwilio am swyddog ieuenctid hŷn.
Teitl y swydd: Swyddog Ieuenctid Hŷn
Cyflog: £21,004 y flwyddyn / pro rata
Oriau gwaith: 37.5 awr yr wythnos
Lleoliad: Swyddfa Menter Iaith Rhondda Cynon Taf, Ysgolion cyfun a lleoliadau cymunedol amrywiol
Gwyliau blynyddol: Caniateir 25 niwrnod o wyliau blynyddol pro rata, ac wyth niwrnod wyliau cyhoeddus – y cyfnodau i’w pennu mewn ymgynghoriad â’r Prif Weithredwr.
Cyfnod prawf: 6 mis
Pensiwn: Pensiwn gwladol yn y gweithle – dewisol
Dyddiad Cau: 19eg Chwefror 2018.
Disgrifiad Swydd Swyddog Ieuenctid Hŷn
Mae’r Fenter Iaith yn awyddus i benodi person brwdfrydig i weithio fel rhan o dîm y Fenter i sicrhau llais a gweithgareddau amrywiol i bobl ifanc hŷn y Sir. Mae profiad o waith ieuenctid yn hanfodol ond rydym hefyd yn chwilio am rywun sydd â gwybodaeth eang am ddiwylliant cyfoes Cymraeg ac sy’n barod i feddwl a gweithredu’n greadigol er mwyn hyrwyddo a chodi awydd pobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg. Bydd y swyddog yn cydweithio â’r Urdd ac adran ieuenctid Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Bydd angen y gallu i gyfathrebu ar bob lefel, ac i ddatrys problemau’n ddiplomyddol yn ogystal â’r gallu i weithio yn annibynnol, o dan bwysau, a chyfathrebu’n dda gan arwain gweithredoedd a syniadau pobl ifanc.
Prif Ddyletswyddau
- Cynnal cyfarfodydd fforymau cyson gyda fforymau Ysgolion Cyfun Rhydywaun, Y Cymer, Gartholwg, Llanhari a Choleg y Cymoedd,
- Hyrwyddo a hybu’r fforymau o fewn yr Ysgolion a’r Coleg.
- Hybu, cydlynu a threfnu gweithgareddau ieuenctid Cymraeg gyda’r fforymau.
- Datblygu cynulleidfa Gymraeg gyda’r ôl 16 trwy amryw ddulliau gan gynnwys cerddoriaeth a gigiau gan ddefnyddio Parti Ponty fel ffocws penllanw
- Trefnu a chydlynu ardaloedd cerddorol a phobl ifanc Parti Ponty gan weithio fel rhan o dîm y Fenter ar y digwyddiad
- Creu a chynnal grŵp/iau cymunedol gyda phobl ifanc hŷn trwy rwydweithiau ar lein a chynlluniau digidol arloesol
- Mewnbynnu i geisiadau grant ar gyfer gweithgarwch pobl ifanc
- Cyd-lynu gweithgarwch ffurfiol ac anffurfiol a rhedeg sesiynau a hyfforddiant pwrpasol. 22 achrediad cyfrwng Cymraeg y flwyddyn
- Cydlynu rhaglen Radio wythnosol y Fenter
Trwy ddefnyddio cynlluniau a gweithgareddau cyfredol y Fenter a’r Urdd, darparu cyfleoedd i ddatblygu gwirfoddolwyr ifanc - Clwb Ieuenctid / Adran ar gyfer pob ysgol gyfun Gymraeg yn Rhondda Cynon Taf. Aelwyd 16 + yn ardal Pontypridd a’r Rhondda, Adran Elai yn Nhonysguboriau
- Cydweithio gydag Swyddogion Ieuenctid Adran Ieuenctid RhCT i ddatblygu gweithgarwch cyfrwng Cymraeg i bobl ifanc
- Bod yn linyn cyswllt ymarferol a phartneriaethol rhwng Menter Iaith Rhondda Cynon Taf a’r Urdd
- Llunio adroddiad cynhwysfawr pob chwarter
- Ymgymryd â thasgau rhesymol eraill yn achlysurol ac yn ôl y galw
Ceisiadau
Am ymholiadau pellach a ffurflen gais, cysylltwch â Einir Siôn 01443 407570 neu einir@menteriaith.cymru
Gwiriad CRB: Bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd llwyddiannus gael ei wirio gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB/ISA)
Archwiliad meddygol: Cedwir yr hawl i ofyn i’r sawl a benodir fynd o dan archwiliad meddygol cyn cynnig y swydd yn ffurfiol.