Mentrau Iaith Cymru (MIC)
SWYDD DDISGRIFIAD – Cyfarwyddwr Mentrau Iaith Cymru
Yn atebol i: Bwrdd Rheoli MIC trwy’r Cadeirydd.
Cyflog: £40,000 – £45,000 + pensiwn
Cefndir MIC
Mae Mentrau Iaith Cymru (MIC) wedi bod yn gweithredu fel corff canolog i gefnogi gwaith y Rhwydwaith o Fentrau Iaith lleol ers 1999 trwy amryw o weithgareddau a meysydd, fel marchnata a chyfathrebu, hyfforddiant a dylanwadu er budd y Gymraeg. Dros yr ugain mlynedd diwethaf mae gwaith y sefydliad wedi esblygu gyda MIC yn gwneud cyfraniad pwysig at waith y Rhwydwaith a’r Mentrau lleol.
Rydym yn gwmni cyfyngedig trwy warant ac yn chwarae rôl bwysig o fewn y 3ydd sector.
Prif Ddiben y Swydd
Mewn cydweithrediad a’r Bwrdd Rheoli, mae’r Cyfarwyddwr yn gyfrifol am ddatblygiad strategol Mentrau Iaith Cymru gan gynnwys datblygu statws a phroffil y Mentrau Iaith Lleol yng Nghymru, datblygu partneriaethau a dylanwadu ar ran y Mentrau Iaith.
Mae rheolaeth ariannol gadarn, ynghyd ag arweiniad a datblygiad tîm o staff canolog hefyd yn gyfrifoldebau allweddol y swydd.
Prif Ddyletswyddau
– Sicrhau fod MIC yn cyfrannu tuag at ddatblygiad polisi mewn meysydd sydd yn berthnasol i weithgareddau a datblygiad y Mentrau Iaith a’r iaith Gymraeg, ac yn meithrin perthynas ystyrlon gyda gweinidogion a gwleidyddion allweddol.
– Sicrhau presenoldeb cryf i MIC fel partner allweddol ym meysydd Gwaith Ieuenctid, yr Iaith Gymraeg, Datblygu Busnes a Cymunedol yn arbennig o safbwynt gwaith Llywodraeth Cymru a rhan ddeiliaid eraill perthnasol.
– Arwain, rheoli, ysbrydoli a datblygu staff MIC gan sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth berthnasol.
– Sicrhau strwythur llywodraethu effeithiol, proffesiynol a chadarn
– Cynnig arweiniad, cyngor a chefnogaeth ragweithiol i MIC, Pwyllgor Gweithredol MIC a’r Mentrau Iaith Lleol.
– Rheoli datblygiad, gweithrediad a monitro llwyddiannus Cynllun Corfforaethol MIC.
– Llunio dogfennau strategol, gan gynnwys cynlluniau gweithredu a dogfennau ar gyfer cyllidwyr.
– Sicrhau bod yr holl raglenni gwaith yn cael eu darparu mewn ffordd effeithlon a phroffesiynol.
– Adnabod ffynonellau cyllid newydd perthnasol gan arwain ar y broses o ymgeisio am y cyllid.
– Gweithredu a datblygu yn effeithiol gweithdrefnau, polisïau a deddfwriaeth sy’n berthnasol i rediad effeithiol y sefydliad nawr ac i’r dyfodol.
MANYLEB PERSON
Meini Prawf Hanfodol
– Gradd neu gymhwyster, neu gyfwerth, tebyg mewn pwnc cysylltiedig sy’n berthnasol i’r swydd
– Profiad o weithio ar lefel strategol cenedlaethol a dealltwriaeth dda o lywodraeth cenedlaethol a lleol.
– Profiad o weithio gyda gwleidyddion a uwch swyddogion ar lefel sirol a chenedlaethol
-Profiad o feithrin a chynnal partneriaethau a rhwydweithiau cydweithredol, ystyrlon a buddiol ar lefel strategol
– Sgiliau rheoli, arwain a datblygu staff wedi eu profi, gan osod safonau perfformiad uchel, ynghyd ag ysgogi a grymuso cydweithwyr
– Sgiliau meddwl arloesol a strategol amlwg
– Profiad o reoli cyllid, gan gynnwys rheoli ac adrodd ar gyllidebau, rhagolygon ariannol a rheoli costau
– Sgiliau cyfathrebu, negodi a dylanwadu o’r radd flaenaf yn y Gymraeg a’r Saesneg gyda’r gallu i wneud cyflwyniadau a siarad yn gyhoeddus gyda staff a chynulleidfaoedd amrywiol yn fedrus ac yn hyderus yn y ddwy iaith
– Sgiliau trefnu cryf gyda’r gallu i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel yn gyson
– Person hunanysgogol a hyblyg, sy’n medru addasu ac ymateb yn gadarnhaol i newid a gweithio dan bwysau yn effeithiol a chyflym
– Sgiliau cyfathrebu dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) llafar ac ysgrifenedig ardderchog
– Hyderus wrth ddefnyddio Technoleg Gwybodaeth, gan gynnwys Microsoft Office a chyfryngau cymdeithasol
– Gweithio mewn modd proffesiynol ar bob achlysur gan arddel egwyddorion Nolan
– Trwydded yrru gyfredol a char i’w ddefnyddio at ddibenion busnes
Meini Prawf Dymunol
– Cymhwyster proffesiynol mewn maes yn ymwneud â rheoli pobl, neu gyfwerth
– Dealltwriaeth dda o waith MIC, y Mentrau Iaith Lleol, partneriaid a polisi’r Gymraeg.
– Adnabyddiaeth dda o Gymru ac ystod o gysylltiadau a rhwydweithiau defnyddiol
– Profiad o ddenu nawdd neu o ennill cytundebau gwaith newydd trwy ymateb i dendrau, ceisiadau cronfeydd strategol, grantiau cyhoeddus, sefydlu partneriaethau ayyb
Rheoli Llinell
Cadeirydd MIC yw’r rheolwr llinell. Bydd holl staff MIC yn atebol i’r Cyfarwyddwr.
Lleoliad Gwaith
Bydd disgwyl treulio canran o’r amser yn un o swyddfeydd y Mentrau Iaith (https://mentrauiaith.cymru/dod-o-hyd-i-fenter/) sydd mwyaf cyfleus i ddeilydd y swydd. Mae MIC yn gwerthfawrogi’r angen am hyblygrwydd ac mae modd trafod elfen o weithio o bell os yw hynny’n ddymunol. Gan fod hon yn swydd Genedlaethol, mae teithio rheolaidd o fewn Cymru ac weithiau yn bellach yn anorfod.
Amodau
Oriau gwaith arferol y swydd yw 37 awr yr wythnos. Er hyn, bydd gofyn i chi weithio oriau pellach sydd yn angenrheidiol i ymgymryd â gofynion y swydd yn effeithiol, gan gynnwys gweithio gyda’r nos ac ar benwythnosau (gyda’r gallu i hawlio’r oriau yn ôl). Telir Costau Teithio yn unol â Lwfansau Teithio Cydgyngor Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol.
Gwyliau
Bydd 24 diwrnod o wyliau pro rata yn ogystal â gwyliau statudol.
Rydym yn gyflogwr cyfle cyfartal sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Rydym yn croesawu ac yn annog ymgeiswyr o bob cefndir i ymgeisio.
Bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd llwyddiannus gael archwiliad manwl gan y Biwro Cofnodion Troseddol.
Adolygir disgrifiadau swydd yn rheolaidd fel rhan o werthusiad staff a datblygiad personol.
Gwybodaeth Gyswllt:
Diddordeb yn y swydd ond eisiau rhagor o wybodaeth / manylion? Cysyllta gyda Dewi Snelson, Cadeirydd y Mentrau Iaith.
Ebost: dewi@mgsg.cymru
Ffôn: 01239 712934
Dymuno gwneud cais am y swydd hon? Anfon dy ffurflen gais ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall at: dewi@mgsg.cymru
Dyddiad cau: 4pm Dydd Llun, Ionawr 16eg
Ffurflen Gais yma:
Adroddiad Blynyddol ddiweddaraf MIC (2021-22) i’w gweld yma:
Cynllun Corfforaethol MIC yma: