Mae’r Swansea City AFC Foundation yn falch i gyhoeddi sesiynau Premier League Kicks iaith Gymraeg mewn cydweithrediad â Menter Iaith Abertawe ac Ysgol Gyfun Gŵyr.

Mae’r cynllun Premier League Kicks yn rhaglen genedlaethol sy’n defnyddio pŵer pêl-droed a chwaraeon i ymgysylltu’n rheolaidd â phlant a phobl ifanc o bob cefndir a gallu trwy bêl-droed, chwaraeon a datblygiad personol. Mae’r rhaglen yn cynnig dylanwad cadarnhaol y gellir ymddiried ynddo mewn ardaloedd ag angen uchel.

Mae’r prosiect yn cyflwyno sesiynau wythnosol am ddim, gan roi cyfleoedd i bobl ifanc rhwng wyth ac 16 oed ar draws De-orllewin Cymru chwarae mewn gweithgareddau pêl-droed, tra bod pobl ifanc 16 i 18 oed mewn addysg bellach yn cael cyfle i ddod yn swyddogion neu hyfforddwyr gwirfoddol.

Bydd ein sesiynau Cymraeg yn ceisio annog pobl ifanc i gyfathrebu yn y Gymraeg drwy bêl-droed, gyda’r sesiynau cychwynnol yma ond ar gael i ysgolion clwstwr Ysgol Gyfun Gŵyr.

Bydd y sesiynau’n dechrau ar yr 28ain o Fawrth, a gallwch nawr gofrestru fan HYN.

Rydym yn gyffrous iawn i allu lansio’r cynllun newydd hwn mewn partneriaeth â’r Swans Foundation ac Ysgol Gyfun Gŵyr,” meddai Tomos Jones o Fenter Iaith Abertawe.

“Ein gwaith yw hyrwyddo’r defnydd a’r mwynhad o’r Gymraeg yn ardal Abertawe, ac mae’n wych gweld fod y clwb pêl-droed mor gefnogol o’r iaith.

“I’r disgyblion chweched dosbarth sydd wedi gwirfoddoli ar gyfer y cynllun hwn, bydd cyfle i ddefnyddio eu Cymraeg mewn cyd-destun chwaraeon wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau hyfforddi a mentora’r disgyblion iau.

“Mae eu galluogi i ymgysylltu â’r iaith fel hyn yn bwysig iawn, ac mae’r posibilrwydd o waith iaith Gymraeg sy’n talu yn y dyfodol wrth i’r cynllun ddatblygu yn rhywbeth sy’n hanfodol o bwysig i bobl ifanc yn ardal Abertawe.

“Bydd hefyd yn rhoi cyfle i’r disgyblion iau gymdeithasu ar y cae pêl-droed drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at ddechrau arni.”

Fel sefydliad rydym yn falch o fod yn lansio ein sesiwn PL Kicks gyntaf yn yr iaith Gymraeg mewn partneriaeth â Menter Iaith Abertawe ac Ysgol Gyfun Gŵyr,” ychwanegodd Graham Smith, arweinydd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant y Swans Foundation.

“Fel sefydliad rydym wedi ymrwymo i gydraddoldeb a chynhwysiant, ac rydym wedi ymrwymo i ehangu nifer y gweithgareddau rydym yn eu cynnig drwy gyfrwng y Gymraeg.

“Mae gan ein prosiect PL Kicks hanes hir o gefnogi pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau hyfforddi a darparu cyfleoedd gwirfoddoli gwerthfawr, ac rwy’n falch iawn bod y sesiwn hon wedi’i datblygu gyda hynny mewn golwg yn benodol.

“Rydym yn edrych ymlaen at weld disgyblion chweched dosbarth Gŵyr yn datblygu eu sgiliau hyfforddi ac yn dod yn fodelau rôl ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n siarad Cymraeg yn eu cymuned leol.”

Ychwanegodd prif weithredwr clwb pêl-droed Abertawe: “Mae hon yn fenter wych rhwng y Swans Foundation a Menter Iaith Abertawe.

“Mae’r Gymraeg yn rhywbeth yr ydym ni fel clwb yn teimlo’n angerddol iawn amdano ac mae gennym gynlluniau i ddatblygu ymhellach, a bydd yn gyffrous gweld chwaraewyr ifanc yn cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod y sesiynau yma.”