Mae Mentrau Iaith Cymru yn falch iawn o gyhoeddi bod ein cais grant i Gronfa Strategol Gwirfoddoli Cymru yn llwyddiannus, teitl ein cynllun llwyddiannus yw “Y Gymraeg a Gwirfoddoli 2022”. 

Mae’r Grantiau Strategol Gwirfoddoli Cymru yn rhaglen ariennir gan Llywodraeth Cymru, ac yn cael ei weinyddu gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddoli Cymru.

Meddai Iwan Hywel, Arweinydd Tîm Mentrau Iaith Cymru:  

Bydd y cyllid, sy’n gyfanswm o £40,000, yn ein galluogi i gynnal cynllun arloesol fydd yn seiliedig ar gydweithio. Cynllun rydym yn credu’n gryf fydd yn cynyddu’r cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg wrth wirfoddoli, yn cryfhau ymwneud â mudiadau trydydd sector gyda’r Gymraeg a thrwy hynny’n cryfhau’r Gymraeg fel iaith gymunedol.”

Rhan allweddol o’r cynllun fydd gweithio ar y cyd ac mewn partneriaeth a diolch i’r endidau canlynol am eu cefnogaeth a pharodrwydd i fod yn rhan o’r cynllun: Mudiad Meithrin, Urdd Gobaith Cymru, Menter Iaith Conwy, Cymorth Cymunedol a Gwirfoddol Conwy, Comisiynydd y Gymraeg a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol. Byddwn hefyd yn ymgysylltu ag endidau eraill i gydweithio gyda ni dros gyfnod y cynllun.

Isod ceir trosolwg byr o’r hyn bwriadwn ei wneud, cofiwch wylio am ddiweddariadau dros y misoedd nesaf a petai chi â diddordeb yn y cynllun e-bostiwch post@mentrauiaith.cymru  

Y Cynllun yn fras: 

Y Gymraeg a Gwirfoddoli 2022: Cynyddu nifer y bobl sy’n gwirfoddoli yn defnyddio’r Gymraeg drwy: gryfhau dealltwriaeth, datblygu systemau, cynyddu cyfleoedd, hyrwyddo cyfleoedd, a hynny ar y cyd a drwy weithio mewn partneriaeth.   

Mae 3 cam penodol i’r cynllun: 

Cam 1 (Tachwedd- Mawrth):  Canolbwyntio ar werthuso’r hyn ddigwyddir yn barod a chryfhau cydweithio mewn 3 neu 4 ardal ddaearyddol, a chynnwys a thrafod gydag endidau cenedlaethol perthnasol  

Cam 2 (Chwefror- Ebrill): Rhannu’r arferion da o’r ardaloedd ac o drafodaethau gyda phartneriaid cenedlaethol:     

• Systemau cyfeirio clir, cryfhau perthynas rhwng endidau a chreu gwell cyfleoedd i wirfoddolwyr    

• Hyrwyddo defnydd gwefan Gwirfoddoli Cymru, sicrhau niferoedd digonol o gyfleoedd 

•  Creu fframwaith cenedlaethol Y Gymraeg a Gwirfoddoli fydd yn waddol i’r prosiect a phe bai angen/ awydd yn gallu cael ei defnyddio gan endidau yn y dyfodol i fwydo i mewn i gynllun Investing in Volunteers   

Cam 3 (Ebrill- Mehefin): Ymgyrch denu Gwirfoddolwyr sydd am ddefnyddio’r Gymraeg, hynny i gyfleoedd YN y Gymraeg a DROS y Gymraeg. Ymgyrch broffesiynol ar draws y cyfryngau traddodiadol a digidol. Dyma fydd yr ymgais gyntaf ar wneud hyn.