Mae trefi Cymru wedi bod yn fwrlwm o gerddoriaeth Gymraeg yn barod yr haf hwn, wrth i’r Mentrau Iaith gynnal 6 o wyliau eleni, mewn trefi dros Gymru. Ac mae o leiaf 4 i ddod yn ystod yr haf hwn gyda 2 arall yn yr Hydref a’r gaeaf!
Mae Mentrau Iaith Cymru’n falch dros ben bod Taylor Swift wedi cydnabod ein heniaith ar lwyfan fwyaf cyfoes a chyffrous y flwyddyn, gyda miloedd ar filoedd yn gwylio yng Nghaerdydd. Does dim amheuaeth y bydd hyn yn codi statws y Gymraeg. Gobaith y Mentrau Iaith yw y bydd sylw Swift i’r Gymraeg yn atgyfnerthu ymdrechion y Mentrau Iaith i wneud y Gymraeg yn berthnasol i fywydau pobl ifanc yr haf yma, wrth i’r Mentrau Iaith fynd ati i gynnal ein haf llawn gwyliau Cymraeg.
Mae oriau diri o gerddoriaeth a chymdeithasu yn Gymraeg wedi digwydd eisoes yr haf yma, yng Ngŵyl Fel ‘na Mai yng Nghrymych, Gŵyl Fach y Fro yn y Bari, Ffiliffest yng Nghaerffili, Gŵyl Tawe yn Abertawe a Gŵyl Cefni yn Llangefni. Dywed Dewi Snelson, cadeirydd Mentrau Iaith Cymru a threfnydd Gŵyl Canol Dre, ‘Er bod cynnal ein gwyliau yn gostus o ran adnoddau ariannol ac amser staff a gwirfoddolwyr, mae mor bwysig ein bod yn creu gofodau Cymraeg, lle mae pawb yn gallu defnyddio’u Cymraeg a chael hwyl, a hynny yn lleol, yn eu cymunedau’. Cynhaliodd Menter Iaith Fflint a Wrecsam ŵyl newydd sbon eleni yn yr Wyddgrug o’r enw Gwyddgig, oedd yn llwyddiant mawr, sy’n dangos fod yna alw am weithgareddau Cymraeg sy’n sbri ym mhob rhan o Gymru.
Wrth i’r cyfnod arholiadau ddod i ben, dyma gyfle i bobl ifanc a’u teuluoedd fwynhau, cymdeithasu a gwrando ar gerddoriaeth dda yn Gymraeg. Mae Myfanwy Jones, Cyfarwyddwr Mentrau Iaith Cymru’n dweud bod ‘Gwyliau cerddorol y Mentrau iaith yn atgyfnerthu defnydd teuluoedd o’r Gymraeg, yn rhoi cyfle i fandiau ifanc gael chwarae i gynulleidfaoedd mawr, ac yn dod â budd economaidd sylweddol i’r trefi ar yr un pryd. Rydyn ni’n benderfynol nad yw’r cyfnod o galedwch economaidd yn lleihau dim ar fwrlwm y Gymraeg yn ein gwyliau eleni’. Mae gwyliau gan y Mentrau Iaith yn dal i ddod yng Nghaerfyrddin, Caerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr, Casnewydd a Chwm Gwendraeth, ac er fod prysurdeb yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd yn golygu nad yw Parti Ponti’n digwydd eleni, mae Menter Iaith Rhondda Cynon Taf yn falch o allu hwyluso llwyth o weithgarwch cerddorol yn ac o gwmpas yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst.
Y Gwyliau sydd i ddod:
Gŵyl Canol Dre, Caerfyrddin, 06.07.2024
Tafwyl, Caerdydd, 12.-14.07.2024
Ogi Ogi Ogwr, Pen-y-bont ar Ogwr, 28.06.2024
Dyma flas o’r rhai sydd wedi bod
Gŵyl Cefni: https://www.facebook.com/share/v/wt3i1mUYNu9sJvax/







