Dysgu canu “Yma o Hyd”

Mae’r gân anthemig “Yma o Hyd” sy’ bellach wedi dod yn anthem i dîm pêl-droed Cymru yn sôn am heriau i Gymru a’r Gymraeg yn hanes y wlad ac mae’n rhoi gobaith hefyd – ry’n ni yma o hyd wedi’r cyfan! 

Mae’r Mentrau Iaith yn cefnogi cwmni CânSing i ddarparu adnoddau i ddysgu canu “Yma o Hyd”. Mae’r adnoddau yn rhad ac am ddim i bawb ac maen nhw’n cynnwys fersiwn BSL – felly maen nhw ar gael i BAWB ddysgu a chanu’r gân a bod yn rhan o’r Wal Goch. 

Cer i wefan CânSing i ganu!

Cân :: Yma o Hyd – CânSing (cansing.org.uk)

Dysgu am hanes Cymru

Mae cwmni Mewn Cymeriad wedi creu fideo ar ran y Mentrau Iaith i ddysgu am hanes Cymru – yr heriau a’r llwyddiannau – mewn ffordd hwyliog iawn. Mae gan Mewn Cymeriad brofiad a sgiliau arbennig i gyflwyno hanes a chymeriadau Cymru ac ry’n ni’n falch iawn o allu cyflwyno’r fideo i chi.

Dyma fersiwn Gymraeg gydag is-deitlau. Ac mae fersiwn heb is-deitlau ar gael ar sianel YouTube y Mentrau Iaith.   

Ac am ychydig o hanes cryno am y gân ei hun.