Y Gymraeg a Gwirfoddoli 2022– Cyfle cyffrous i gwmni neu unigolyn profiadol, proffesiynol a chymwys i weithio gyda ni ar y cynllun arloesol hwn.
Bydd y cwmni llwyddiannus yn cyd-weithio gyda staff Mentrau Iaith Cymru (MIC) i wireddu’r cynllun.
Mae MIC wedi bod yn llwyddiannus gyda chais i Gronfa Strategol Gwirfoddoli Cymru. Mae’r Grantiau Strategol Gwirfoddoli Cymru yn rhaglen ariennir gan Lywodraeth Cymru, ac yn cael ei gweinyddu gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddoli Cymru.
Y Gwaith:
- Ymchwilio i sefyllfa’r Gymraeg a Gwirfoddoli ar hyn o bryd, gan ganolbwyntio ar ambell ardal benodol
- Creu Fframwaith Gwirfoddoli a’r Gymraeg
- Cynnal ymgyrch i gael mwy o bobl yn gwirfoddoli yn defnyddio’r Gymraeg.
Mae sawl darn o waith blaenorol yn mynd i fwydo mewn i’r cynllun, ac mae nifer o endidau cenedlaethol eraill yn mynd i fod yn rhan ohono. Cynllun fydd gydag allbynnau ymarferol i fudiadau ac unigolion ledled Cymru yw hwn, nid darn o waith ymchwil yn unig.
Mudiad cenedlaethol yw MIC sy’n cefnogi gwaith y 22 Menter Iaith leol ledled y wlad www.mentrauiaith.cymru
Y cwmni/ unigolyn llwyddiannus:
- Dealltwriaeth o sefyllfa’r Gymraeg, Prosiect 2050 a’r Trydydd Sector yng Nghymru
- Profiad o weithio mewn partneriaeth, o weithio gyda sawl mudiad/ cwmni ar y tro a phrofiad o weithio gyda gwirfoddolwyr
- Profiad o waith ymchwil, dadansoddi data, cynhyrchu adroddiadau a rhoi cyflwyniadau
Am fwy o wybodaeth a phecyn ymgeisio am y tendr cysylltwch ag Iwan Hywel, Arweinydd Tîm MIC – iwanhywel@mentrauiaith.cymru Dyddiad Cau: 28.1.2022
Lawrlwytho Pecyn Gwybodaeth tendr gwaith “Gwirfoddoli a’r Gymraeg 2022” yma: