Ar fore Iau’r 4ydd o Awst am 11:30am ar stondin y Mentrau Iaith (C9) ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Tregaron fe lansiodd Mentrau Iaith Cymru (MIC) Gwirfoddoli a’r Gymraeg ac ymgyrch denu mwy o wirfoddolwyr sy’n siarad Cymraeg.

Pen llanw camau cyntaf prosiect Gwirfoddoli a’r Gymraeg 2022 yw’r digwyddiad hwn, prosiect gafodd ei ariannu drwy Grantiau Strategol Gwirfoddoli Cymru, rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru, a’i weinyddu gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddoli Cymru.

Cydweithiodd MIC gyda cwmni Iath cyf. i ymchwilio i’r heriau, llwyddiannau ac arferion da wrth i fudiadau recriwtio gwirfoddolwyr sy’n siarad Cymraeg. Canolbwyntiodd yr ymchwil ar ardaloedd Conwy, sir Benfro a Rhondda Cynon Taf.

Mae’r ddogfen Fframwaith Gwirfoddoli a’r Gymraeg yn ddogfen arweiniol hawdd i’w dilyn i endidau i’w defnyddio wrth fynd ati i recriwtio gwirfoddolwyr. 

Bydd y Fframwaith wedi ei lleoli ar dudalen newydd am wirfoddoli yn Gymraeg ar wefan Gwirfoddoli Cymru: https://gwirfoddolicymru.net/cymraeg

Bydd ymgyrch denu gwirfoddolwyr yn cael ei lansio ar ddydd Iau’r Eisteddfod ac yn parhau hyd ddiwedd Medi, rydym yn annog pobl sydd â diddordeb i fynd i wefan Gwirfoddoli Cymru i weld yr ystod eang o gyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael, a hynny wrth ddefnyddio Cymraeg.

Dywedodd Iwan Hywel, Pen Swyddog Hunaniaith (Menter Iaith Gwynedd): 

“Gwyddwn fod llawer iawn o siaradwyr Cymraeg yn rhoi o’u hamser i helpu yn ein cymunedau lleol. Yn aml nid yw siaradwyr Cymraeg yn defnyddio’r gair Gwirfoddoli, yn hytrach yn nodi eu bod yn helpu yn lleol, sy’n wych, a rydym yn diolch i’r pobl hynny sy’n gwneud gwahaniaeth yn barod.  Credwn drwy ddefnyddio dulliau modern fel gwefan Gwirfoddoli Cymru gall endidau apelio i griwiau newydd o bobl i helpu, a thrwy hynny cael mwy o bobl yn defnyddio’r Gymraeg”.

Mae mudiadau Cymraeg amlwg eu hiaith fel Mudiad Meithrin, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a’r Urdd yn rhan o’r ymgyrch yma ac i gyd yn awyddus iawn ddenu a chefnogi mwy o wirfoddolwyr. 

Yn ogystal mae llawer iawn o fudiadau sydd ddim yn gweithio’n gyfan gwbl drwy’r Gymraeg, neu sydd ddim yn benodol yn hyrwyddo’r Gymraeg, yn awyddu i ddenu mwy o wirfoddolwyr sy’n gallu siarad Cymraeg, a bydda nhw hefyd yn rhan o’r ymgyrch marchnata dros y ddeufis nesa.

Dywedodd Dafydd Beech, Rheolwr Addysg Cymunedol Genedlaethol Y Groes Goch.

 “Mae angen gwirfoddolwyr arnom i gefnogi unigolion a grwpiau yn ein cymunedau trwy eu hiaith gyntaf. Mae cael gwirfoddolwr sy’n siarad Cymraeg yn hanfodol i’r Groes Goch gefnogi pobl mewn argyfwng a meithrin eu gwytnwch”.

Oherwydd gwaith y prosiect mae system newydd o chwilio am gyfleoedd ar wefan Gwirfoddoli Cymru. Defnyddir y bathodyn oren iaith gwaith i ddynodi cyfleoedd drwy gyfrwng y Gymraeg, y bathodyn dysgwyr i gyfleoedd arbennig i siaradwyr newydd Cymraeg ac yn newydd mae bathodyn sy’n nodi “Cymraeg- weithiau” i endidau ddefnyddio i gyfleoedd gwirfoddoli ble maent angen gwirfoddolwyr sy’n gallu siarad Cymraeg, ond dim yn gallu gwarantu bydd pob sgwrs yn Gymraeg wrth wirfoddoli iddynt.

Dywedodd Iwan Hywel: “Mae hi’n amlwg fod mwy o waith angen ei wneud yn y maes hwn, ond mae gwir frwdfrydedd gan fudiadau, yn rai sy’n gweithio dros yr iaith ac yn rai sydd ddim yn gweithio drwy’r Gymraeg, i weithio gyda mwy o wirfoddolwyr sy’n siarad Cymraeg, a thrwy hynny cael mwy o sgyrsiau Cymraeg yn digwydd ar draws ein cymunedau”

Yn siarad yn y digwyddiad oedd:

  • Iwan Hywel, Pen Swyddog Hunaniaith (Menter Iaith Gwynedd)
  • Siwan Tomos, cwmni Iaith cyf.
  • Dafydd Beech, Rheolwr Addysg Cymunedol Genedlaethol Y Groes Goch
  • Eirian Conlon, Swyddog Gweithredol Datblygu’r Cwricwlwm, Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
  • Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Llywodraeth Cymru

Jeremy Miles, Gweinidog Addysg a’r Gymraeg yn annerch y gynulleidfa ar faes Eisteddfod Ceredigion 2022 & Iwan Hywel pen Swyddog Hunaniaith (Gwynedd) yn cyfarch.