Mae Menter Iaith Abertawe yn falch iawn i lansio prosiect newydd a fydd yn gweld cyfres o ddigwyddiadau cerddoriaeth fyw iaith Gymraeg, dwyieithog, ac amlieithog ar draws y ddinas dros y ddwy flynedd nesaf.

Mae’r prosiect yn anelu i adeiladu ar y sîn cerddoriaeth iaith Gymraeg yn y ddinas, gan gynnig llwyfan rheolaidd i artistiaid o’r ardal a thu hwnt i berfformio, yn ogystal â chynnig cyfleoedd cyson i bobl Abertawe i fwynhau cerddoriaeth iaith Gymraeg o’r safon uchaf.

Dyma dim ond rhai fydd yn perfformio:

Dywedodd Tomos Jones, Prif Swyddog Datblygu Menter Iaith Abertawe, “Rydym yn gwybod bod cerddoriaeth yn gallu bod yn gyflwyniad gwych i ieithoedd, gyda llwyddiant artistiaid fel Super Furry Animals, Gorky’s Zygotic Mynci, ac yn fwy diweddar Adwaith a Sage Todz yn ysbrydoli nifer i gymryd diddordeb yn yr iaith Gymraeg. Rydym am bwysleisio bod y digwyddiadau yma’n agored i bawb – does dim angen i chi deall y geiriau i fwynhau cerddoriaeth wych!”.

Bydd tocynnau am ddim ar gyfer pob digwyddiad ar gael i fyfyrwyr Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe diolch i gefnogaeth bellach gan Academi Hywel Teifi.

Yn rhedeg ochr yn ochr â’r digwyddiadau yma bydd clwb cerddoriaeth wythnosol i bobl ifanc mewn cydweithrediad ag Urdd Gorllewin Morgannwg. Bydd y sesiynau yma yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu sgiliau megis cyfansoddi a thechnegau recordio trwy gyfrwng y Gymraeg. Wrth i’r prosiect ddatblygu dros y ddwy flynedd, bydd y bobl ifanc yma hefyd yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn trefnu digwyddiadau pellach, yn ogystal â chael y cyfle i berfformio ar y llwyfannau eu hunan.

Dywedodd Nia Eleri Johns, Swyddog Celfyddydau a’r Gwersylloedd Urdd Gorllewin Morgannwg, “Bwriad y Clwb Cerddoriaeth yma yw denu criw o bobl ifanc sy’n mwynhau gwahanol agweddau o’r byd cerddoriaeth a chynnig y cyfle iddynt ddysgu amrywiaeth o sgiliau, o recordio i gyfansoddi. Bydd y cyfleoedd yma yn bwysig er mwyn dangos iddynt yr holl brofiadau sydd ar gael a hyd yn oed eu hannog i ystyried gyrfa yn y maes. Un peth rydym yn awyddus iawn i sefydlu yw band neu grŵp cerddorol newydd lle bydd modd iddynt berfformio gyda’i gilydd fel rhan o’r prosiect. Bydd hefyd yn wych cael amrywiaeth o westeion o’r byd cerddoriaeth i ddod i siarad gyda’r bobl ifanc a rhannu eu profiadau nhw.

Mae’r digwyddiadau cyntaf, wedi’u rhaglennu mewn cydweithrediad â’r Swansea Music Hub a PYST, gyda setiau gan Parisa Fouladi, Bryn Fôn, HMS Morris, a llawer mwy ar werth nawr. Mae tocynnau ar gael fan hyn neu wyneb yn wyneb trwy Siop Tŷ Tawe.

Mae’r prosiect yma yn gysylltiedig gyda’r prosiect sesiynau byw sydd eisoes wedi’i gyhoeddi sy’n cynnig platfform digidol pellach i artistiaid, yn ogystal â pharhau i gyflwyno’r iaith Gymraeg i lefydd gwahanol ar draws y ddinas. 

Dyddiadau Medi – Rhagfyr 2022:

15.9 – Parisa Fouladi + Mabli (Mission Gallery)

16.9 – Mei Gwynedd a’r Band + Wigwam (Tŷ Tawe)

23.9 – Chroma + SYBS + Red Telephone (Elysium)

6.10 – N’famady Kouyate + Tom Emlyn (COPR)

8.10 – Gafael Tir (Tŷ Tawe)

15.10 – R*E*P*E*A*T: Breichiau Hir + The Night School (Tŷ Tawe)

21.10 – Bryn Fôn + Derw (Tŷ Tawe)

29.10 – Worldcub + Awst (The Bunkhouse)

4-6.11 – Gŵyl Ymylol Abertawe

18.11 – Burum (Tŷ Tawe)

24.11 – NAWR: Ffrancon + Sachasom (Tŷ Tawe)

3.12 – HMS Morris + Ynys (Bunkhouse)

8.12 – Gareth Bonello + Lowri Evans (COPR) 

Ymholiadau digwyddiadauswyddfa@menterabertawe.org

Ymholiadau clwb cerddoriaeth wythnosolniaeleri@urdd.org

Cofia edrych ar y tab Miwsig ar ein Hafan ddalen i gael gweld yr amrywiaeth ddigwyddiadau cerddorol mae’r Mentrau Iaith yn eu trefnu!