Cytundeb llawrydd cyfnod penodol – y gwaith wedi ei gwblhau erbyn diwedd Mawrth 2022
Cefndir:
Mae Mentrau Iaith Cymru (MIC) yn chwilio am gwmni neu unigolyn profiadol,proffesiynol a chymwys i gefnogi ni gyda, ac i ddatblygu, ein gwaith Marchnata a Chyfathrebu, a gwaith Marchnata a Chyfathrebu’r rhwydwaith o Fentrau Iaith.
Mudiad cenedlaethol yw MIC sy’n cefnogi gwaith y 22 Menter Iaith leol ledled y wlad www.mentrauiaith.cymru
Y Gwaith:
- Dadansoddi gweithdrefnau marchnata digidol y 22 Menter leol, a MIC, ac ein cefnogi i gryfhau’r agwedd yma
- Rheoli cyfrifon cyfryngau cymdeithasol Mentrau Iaith Cymru drwy ddilyn a gweithredu llais brand penodol
- Diweddaru, datblygu a golygu cynllun Marchnata a Chyfathrebu MIC am 2021-22 fel bod cynllun newydd yn ei le ar gyfer 2022-23
- Creu cynlluniau i 2 ymgyrch marchnata cenedlaethol, i gyd-fynd gydag ymgyrchoedd a digwyddiadau penodol y rhwydwaith
Y cwmni/ unigolyn llwyddiannus:
- Profiad eang o farchnata a chyfathrebu
- Profiad o reoli cyfryngau cymdeithasol llwyddiannus
- Profiad o ddadansoddi data digidol
- Y gallu i gynnig gwasanaethau dylunio o safon
- Dealltwriaeth o sefyllfa’r Gymraeg, y Mentrau Iaith a Prosiect 2050
Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag Iwan Hywel, Arweinydd Tîm MIC – iwanhywel@mentrauiaith.cymru
Pecyn ymgeisio am y tendr isod: